4.5.3 Hylifedd cyfalaf cyfranddaliadau
Dylai cymdeithasau fod â chynllun tymor hir ar gyfer darparu hylifedd cyfalaf cyfranddaliadau, a bodloni’r telerau codi cyfalaf cyfranddaliadau a amlinellir yn eu rheolau. Mae Adran 2.3 yn disgrifio pum prif ddull ar gyfer darparu hylifedd:
- Cynhyrchu cyfalaf cyfranddaliadau newydd trwy gynnig agored
- Ailfuddsoddi llog cyfranddaliadau (a difidendau) gan aelodau presennol
- Adbrynu cyfranddaliadau o gronfeydd wrth gefn
- Lleihau gofynion cyfalaf
- Disodli â chyfalaf benthyciadau.
Dylai’r cynllun busnes ddatgan yn eglur pa un o’r dulliau hyn a ddefnyddir gan y gymdeithas. Mae gan rai cymdeithasau ofynion cyfalaf sy’n lleihau, a byddant yn cynllunio ar gyfer rhoi’r gorau i fasnachu pan ddaw asedau sefydlog y gymdeithas i ddiwedd eu hoes weithio; yn yr achos hwn, dylai hyn gael ei ddatgan yn eglur yn y ddogfen gynnig.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop