5.2 Ymgysylltu â’r gymuned

Dylai cynnig cyfranddaliadau cymunedol gael ei dargedu at gymuned ddiffiniedig, boed hynny’n gymuned ddaearyddol, cymuned fuddiant, neu gyfuniad o’r ddau. Dylai rheolau’r gymdeithas gynnwys diffiniad neu ddisgrifiad o’r gymuned y mae’n bwriadu ei gwasanaethu. Mewn byd cynyddol gymhleth, mae’r rhan fwyaf o bobl yn trigo mewn nifer o wahanol gymunedau a gallent ymgymryd â nifer o wahanol rolau rhanddeiliaid yn y cymunedau hynny.

Un o fanteision diffinio’r gymuned darged yw y dylai hynny olygu bod modd amcangyfrif maint y gymuned, disgrifio ei demograffeg, dewis strategaethau hyrwyddo priodol, a phrofi hyfywedd y model busnes arfaethedig. 

Mae ennyn sylw, diddordeb a chefnogaeth pobl yn y gymuned ddiffiniedig yn gofyn am gynllunio a gweithredu gofalus er mwyn datblygu hunaniaeth gymunedol. Mae’n golygu cyfleu diben a gweithgareddau’r gymdeithas mewn ffordd sy’n cyd-fynd â buddiannau cydfuddiannol, cymunedol, neu gyhoeddus pobl. Denu cynulleidfa yw’r cam cyntaf wrth ymgysylltu â’r gymuned. Mae ystod eang o ddulliau ar gael i wneud hyn, gan gynnwys defnyddio gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, ymgyrchoedd e-bost a negeseuon testun, cyfarfodydd cyhoeddus, dosbarthu taflenni o ddrws i ddrws, sylw yn y cyfryngau cyhoeddus ac, os bydd y gyllideb yn caniatáu, hysbysebu. 

Y cam nesaf yw recriwtio cefnogwyr o’r gynulleidfa hon. Cefnogwr yw rhywun sydd wedi mynegi diddordeb yn y fenter, darparu manylion cyswllt a chydsynio i dderbyn cyfathrebiadau personol yn y dyfodol. Mae gan bob dull o ddenu cynulleidfa ei ffordd ei hun o recriwtio cefnogwyr; mae cyfryngau cymdeithasol yn arbennig o dda am gynnig ffordd rwydd i bobl fynegi diddordeb mewn menter a sefydlu cysylltiad. Gallai dulliau eraill fynnu mwy o ymdrech gan y gynulleidfa: llofnodi deisebau, llenwi arolygon, ymateb i negeseuon e-bost, cofrestru ar wefannau, ac yn y blaen. Mae llunio rhestr gyswllt o gefnogwyr hysbys yn amhrisiadwy i gymdeithasau newydd sy’n bwriadu cynnig cyfranddaliadau cymunedol. Mae’n galluogi cyfathrebu’n uniongyrchol â’r bobl sy’n fwyaf tebygol o fuddsoddi yn y cynnig, ac yn rhoi gwybodaeth i’r gymdeithas am faint ei chymuned. Fodd bynnag, mae’n rhaid gofalu bod y rhestrau cysylltiadau hyn yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth bresennol ynglŷn â marchnata uniongyrchol (gweler Adran 5.3). 

Y cam nesaf wrth ymgysylltu â’r gymuned yw troi cefnogwyr yn aelodau. Mae’n bwysig i gymdeithasau newydd benderfynu p’un a fydd aelodaeth yn cael ei chynnig cyn cynnig buddsoddi ac ar wahân iddo. Mae Adran 4 yn disgrifio pedwar math gwahanol o gynnig cyfranddaliadau cymunedol, gan gynnwys cynnig aelodaeth a chynnig arloesi, y mae’r ddau fel arfer yn rhagflaenu cynnig â chyfyngiad amser i gynhyrchu cyfalaf buddsoddi ar gyfer menter benodol.

Mae buddsoddi cymunedol yn fwyaf effeithiol pan fydd yr aelodau’n fwy na buddsoddwyr yn unig, a hefyd yn ymgysylltu fel cwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth, gwirfoddolwyr, cyflogeion, gweithredwyr, arbenigwyr, eiriolwyr, a/neu gyflenwyr. Mae cynnwys pobl mewn amryw ffyrdd yn cryfhau mantais gystadleuol y busnes. Mae aelodau sydd wedi buddsoddi yn fwy tebygol o wirfoddoli neu ddod yn gwsmeriaid ffyddlon. Gall hyn leihau costau a chynyddu trosiant. Mae’n bosibl y bydd aelod-fuddsoddwyr, sy’n cefnogi diben cymunedol y fenter, yn barod i dderbyn enillion ariannol is os yw gwerth cymdeithasol y fenter yn amlwg. Yn ogystal, mae ymgysylltu ag aelodau mewn amryw ffyrdd yn fuddiol i gynaliadwyedd tymor hir y fenter, trwy gynnig sawl rheswm i bobl ddod yn aelodau a buddsoddi yn y fenter. Gall hyn helpu i gynnal hylifedd tymor hir y cyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei godi hefyd (gweler Adran 2.3). 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop