1.3 Y model busnes

Mae buddsoddi mewn cyfranddaliadau cymunedol yn golygu bod cymunedau’n rhan o gylch rhinweddol lle y mae er eu budd nhw fel aelodau a buddsoddwyr i fod yn weithredol fel cwsmeriaid, cefnogwyr, a gwirfoddolwyr. Mae’r un peth yn wir am randdeiliaid eraill, gan gynnwys cyflogeion a chyflenwyr, sy’n rhoi ystyr newydd i’r term amlranddeiliad, lle mae’r un unigolyn yn ymgysylltu â’r fenter trwy nifer fawr o rolau rhanddeiliaid.

Mae hyn yn cyferbynnu â’r model busnes confensiynol, lle mae buddiannau rhanddeiliaid yn groes i rai rhanddeiliaid eraill. Mae elw’n cael ei gynyddu i’r eithaf ar draul cwsmeriaid, cyflenwyr, cyflogeion a buddsoddwyr eraill. Nid oes cymhelliad i wirfoddoli, na dod yn gefnogwr gweithredol menter sy’n gweithio er budd rhywun arall.

Mae cyfranddaliadau cymunedol yn hyrwyddo model busnes gwahanol, sy’n golygu ei bod er budd yr holl randdeiliaid i gydweithio er mwyn creu cyfoeth a defnyddio eu hawliau democrataidd i bennu sut y dosberthir y cyfoeth hwnnw. Mae er budd yr holl randdeiliaid i ddod yn aelodau ac yn fuddsoddwyr, nid yn unig pan fydd y gymdeithas yn cael ei sefydlu, ond yn barhaus wrth i’r fenter dyfu a datblygu. Gellir annog cwsmeriaid, cyflenwyr a chyflogeion newydd i ddod yn aelodau ac yn fuddsoddwyr, er mwyn disodli’r cyfalaf cyfranddaliadau a godir gan aelodau hŷn pan fyddant yn gadael y gymdeithas.

Mae cyfranddaliadau cymunedol yn dibynnu’n drwm ar ymgysylltu â’r gymuned; cynnwys pobl ym mywyd y fenter. Mae angen i gymdeithasau ddiffinio eu cymunedau targed, a datblygu hunaniaeth y cymunedau hyn. Mae’r rhan fwyaf o gymunedau’n ddaearyddol eu natur, ond nid yw eu ffiniau bob amser yn eglur, na ph’un a oes gan bobl yn y gymuned honno hunaniaeth a rennir.

Gall hunaniaeth gymunedol fynd ymhellach na daearyddiaeth a chanolbwyntio yn lle hynny ar ddiddordebau, gwerthoedd, pryderon, neu gredoau cyffredin. Mae enghreifftiau’n cynnwys diddordeb a rennir mewn ynni adnewyddadwy, cynhyrchu bwyd yn lleol, tai fforddiadwy, cefnogi clwb pêl-droed, neu wasanaethau cymunedol a ddarperir gan grŵp ffydd.

Gall cyfranddaliadau cymunedol roi mantais gystadleuol i fenter trwy gynnwys rhanddeiliaid mewn ymatebion newydd i achosion methiant yn y farchnad. Er enghraifft, mae llawer o fusnesau bach yn methu oherwydd nid yw’r perchennog yn gallu dod o hyd i brynwr sy’n fodlon neu’n gallu prynu’r busnes. Gall cymunedau ledaenu cost a risg caffael ar draws nifer fawr o gyfranddalwyr. Gallai busnes fod yn methu o ganlyniad i ddiffyg galw; gall cymunedau fynd i’r afael â hyn trwy gydgrynhoi’r galw a sicrhau bod y busnes yn gwasanaethu’r gymuned. Efallai na fydd busnes yn gallu rheoli costau, gan arwain at brisiau rhy ddrud; gall cymuned leihau costau trwy wirfoddoli, neu drwy ddarparu cyfalaf rhatach. 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop