8.4 Y Cynllun Buddsoddi mewn Mentrau

Cyflwynwyd y Cynllun Buddsoddi mewn Mentrau (EIS) ym 1994 i annog buddsoddiad ecwiti mewn mentrau bach anrhestredig sy’n cynnal masnach gymwys yn y Deyrnas Unedig. (Mae canllawiau manwl ar gael yn Llawlyfr Cynlluniau Cyfalaf Menter VCM10000 HMRC a Thaflen Gymorth HS431 HMRC.)

Gall mentrau cymwys ddefnyddio’r Cynllun i ddenu hyd at £5 miliwn o fuddsoddiad ecwiti yn ystod unrhyw gyfnod deuddeg mis. Mae’n darparu gostyngiad yn y dreth i unigolion (nid cyrff corfforaethol) ac mae’n werth 30% o gost y cyfranddaliadau, i’w wrthbwyso yn erbyn atebolrwydd treth incwm yr unigolyn ar gyfer y flwyddyn dreth pan wneir y buddsoddiad. Mae’n rhaid i’r cyfranddaliadau fod yn gyfalaf newydd ac ychwanegol, ac mae’n rhaid iddynt gael eu dal gan yr unigolyn am dair blynedd o leiaf ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi neu ar ôl i’r fenter ddechrau masnachu, p’un bynnag sydd hiraf. Mae’n rhaid i’r cyfalaf a gynhyrchir gael ei ddefnyddio i ariannu’r gweithgaredd busnes cymwys. Pe byddai aelod yn codi cyfalaf cyfranddaliadau’n gynnar, byddai’r aelod hwnnw’n colli ei ostyngiad yn y dreth, ond ni fyddai’n peryglu’r gostyngiad yn y dreth i aelodau eraill, yn enwedig os nad oedd y swm a godwyd yn sylweddol, y tybir ei fod yn golygu llai na £1,000. Fodd bynnag, pe byddai’r gymdeithas yn caniatáu i aelodau godi cyfalaf cyfranddaliadau o fewn tair blynedd fel mater o drefn, gan gynnwys aelodau nad oeddent yn derbyn EIS, gallai hyn beryglu cymhwysedd yr holl aelodau i gael gostyngiad yn y dreth. Y gostyngiad uchaf yn y dreth y gall unigolyn ei hawlio yn ystod unrhyw un flwyddyn dreth yw £300,000 ar hyn o bryd.

Er bod EIS wedi’i dargedu’n bennaf at gwmnïau preifat sy’n gyfyngedig drwy gyfranddaliadau, mae cymdeithasau’n gymwys hefyd, yn ddarostyngedig i’r un cyfyngiadau a osodir ar gwmnïau, sy’n mynnu bod cyfalaf cyfranddaliadau yn agored i risg yn llwyr, heb unrhyw allanfeydd gwarantedig nac allanfeydd a drefnwyd o flaen llaw ar gyfer y buddsoddwr. Mae hyn yn golygu bod rhaid i gymdeithas feddu ar bwerau i atal neu wrthod ceisiadau i godi cyfalaf cyfranddaliadau. Mae HMRC yn cydnabod nad yw cyfranddaliadau y gellir eu codi yr un fath â chyfranddaliadau adbrynadwy, ac nid yw’n eu trin felly, ar yr amod bod gan y gymdeithas y pwerau hyn.   

Cyflwynodd Deddf Cyllid 2015 nifer o ddiwygiadau i EIS, gan gynnwys meini prawf cymhwyso newydd i gyfyngu’r gostyngiad yn y dreth i fuddsoddi mewn mentrau “gwybodaeth-ddwys” o fewn deng mlynedd o’u gwerthiant masnachol cyntaf, a’r holl fentrau eraill sy’n gymwys o fewn saith mlynedd o’u gwerthiant masnachol cyntaf. Ni fydd hyn yn berthnasol i fentrau lle mae’r buddsoddiad yn cynrychioli mwy na 50% o drosiant wedi’i gyfartalu yn ystod y pum mlynedd blaenorol. Yn ogystal, cyflwynodd gyfyngiad sy’n atal yr arian buddsoddi rhag cael ei ddefnyddio i gaffael busnesau neu asedau busnes presennol. O’u hystyried gyda’i gilydd, mae’r meini prawf newydd hyn yn golygu na fydd cynigion a arweinir gan y gymuned i brynu mentrau presennol fel siopau, tafarnau a chlybiau pêl-droed yn gymwys i gael EIS mwyach.

Nid yw mentrau sy’n ymwneud â gweithgareddau anfasnachol, fel cytundebau buddsoddi neu rentu eiddo, yn gymwys i gael EIS. Mae hyn yn golygu nad yw cymdeithasau sy’n caffael asedau, fel tafarnau, sy’n cael eu prydlesu i denant, yn gymwys i gael gostyngiad yn y dreth. Mae’r un peth yn wir am gymdeithasau sy’n cynhyrchu cyfalaf i’w fuddsoddi mewn gweithleoedd a reolir, neu adeiladau cymunedol sy’n cael eu rhentu neu eu prydlesu i grwpiau defnyddwyr. I fod yn gymwys ar gyfer EIS, mae’n rhaid i incwm anfasnachol cymdeithas beidio â bod yn fwy nag 20% o’i hincwm cyfan.

Mae’r rhan fwyaf o fasnachau’n gymwys, ond nid pob un, a chyfeirir at y rhain fel “gweithgareddau eithriedig”. Mae gweithgareddau eithriedig yn cynnwys rhai sy’n boblogaidd iawn ymhlith mentrau cymunedol, fel ffermio, garddio marchnad, rheoli coetir, a datblygu eiddo. Mae unrhyw weithgareddau sy’n cael eu hystyried yn fuddsoddiad yn hytrach na masnach, fel rhentu eiddo, wedi’u heithrio hefyd. Mae rhai gweithgareddau, fel hurio ystafell, yn fwy anodd eu pennu, yn enwedig pan fydd hyn yn rhan o weithgareddau masnachu fel cyfleusterau cynadledda neu wleddoedd priodas. Yn yr achosion hyn, gallai triniaeth TAW y gweithgaredd fod yn ddefnyddiol wrth bennu p’un a yw’n weithgaredd masnachu.

Mae newidiadau a gyflwynwyd i Ddeddf Cyllid (Rhif 2) 2015 yn golygu, o 30 Tachwedd 2015 ymlaen, nad yw cymdeithasau ynni cymunedol sy’n ymwneud â chynhyrchu neu allforio trydan â chymhorthdal yn gymwys i gael unrhyw fath o ostyngiad yn y dreth mwyach. Ym mis Ebrill 2016, ymestynnwyd yr eithriad hwn i gynnwys cynhyrchu trydan ac ynni (gwres adnewyddadwy, treulio anaerobig ac ati) heb gymhorthdal.  

Mae rheolau hefyd ynglŷn â maint mwyaf y fenter. Mae’n rhaid iddi gyflogi llai na 250 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn a rhaid i’r asedau gros beidio â bod yn fwy na £15 miliwn. Mae’n rhaid i’r fenter fod yn endid annibynnol a pheidio â chael ei rheoli gan unigolyn neu endid arall; caniateir iddi gael is-gwmnïau ar yr amod mai’r fenter yw prif berchennog pob un ohonynt, neu ei bod yn berchen ar 90% o leiaf os bwriedir i’r cyfalaf EIS gael ei fuddsoddi yn yr is-gwmni.

Gweinyddir EIS gan y Ganolfan Fenter Cwmnïau Bach (SCEC) yn HMRC. Mae’r SCEC yn gyfrifol am benderfynu a yw menter a’i chyhoeddiad cyfranddaliadau’n gymwys ar gyfer y Cynllun. Mae’n gwneud hyn trwy wirio bod cyfrifon, dogfen lywodraethu, cynllun busnes a dogfennau eraill y fenter yn ymwneud â’i chyhoeddiad cyfranddaliadau, yn cydymffurfio â gofynion y Cynllun. Mae’r SCEC yn gweithredu cynllun sicrwydd o flaen llaw, sy’n golygu bod menter yn gallu cyflwyno ei chynlluniau a’i dogfennau o flaen llaw, gan ddefnyddio’r ffurflen EIS(AA), a bydd y SCEC yn cynghori ar b’un a yw’r cynnig cyfranddaliadau arfaethedig yn debygol o fod yn gymwys ai peidio. Nid yw sicrwydd o flaen llaw yn orfodol; gall menter a’i buddsoddwyr fod yn gymwys ar gyfer y cynllun ar ôl i’r cyfranddaliadau gael eu cyhoeddi, ond mae darpar fuddsoddwyr yn debygol o werthfawrogi sicrwydd o flaen llaw wrth benderfynu ynglŷn â buddsoddi. 

Nid yw unigolion cysylltiedig yn gymwys i gael gostyngiad yn y dreth trwy EIS. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy’n gyflogai, aelod taledig o’r pwyllgor rheoli, cyfranddaliwr mawr (a ddiffinnir fel rhywun sy’n dal mwy na 30% o’r cyfalaf cyfranddaliadau) yn y fenter, neu unrhyw un sy’n gysylltai unigolyn o’r fath. Diffinnir cysylltai fel priod neu bartner sifil, perthynas neu ddisgynnydd uniongyrchol, partner busnes, neu rai pobl y mae gan yr unigolyn gysylltiadau â nhw trwy ymddiriedolaeth. Mae cyfranddalwyr ar y cyd (gweler Adran 3.2.4) yn cael eu trin fel petaent wedi buddsoddi’r un swm at ddibenion gostyngiad yn y dreth, hyd yn oed os nad ydynt wedi cyfrannu’n gyfartal at y pryniad ar y cyd. Os prynwyd cyfranddaliadau fel rhodd, y derbynnydd sy’n derbyn y gostyngiad yn y dreth, nid y prynwr (gweler Adran 5.9). Dylai dogfennau cynnig ddatgan yn eglur y dylai ymgeiswyr wirio eu bod yn gymwys i gael gostyngiad yn y dreth cyn dibynnu arno. Mae HMRC yn rhoi arweiniad ar y mater hwn yn nhaflen gymorth HS431.

Ni waeth p’un a gafwyd sicrwydd o flaen llaw ai peidio, mae’n rhaid i’r fenter gyflwyno datganiad cydymffurfio (ffurflen EIS1) i’r SCEC ar ôl i’r cyfranddaliadau gael eu cyhoeddi ac mae’r fenter wedi bod yn masnachu am bedwar mis o leiaf. Os yw’r SCEC yn derbyn bod y fenter, ei masnach, a’r cyfranddaliadau oll yn bodloni gofynion y cynllun, bydd yn cyhoeddi ffurflen EIS2 i’r perwyl hwnnw, ac yn cyflenwi digon o ffurflenni EIS3 i’r fenter eu hanfon at y buddsoddwyr fel y gallant hawlio gostyngiad yn y dreth.

Er mwyn hawlio gostyngiad yn y dreth trwy EIS, yn gyntaf, mae’n rhaid i fuddsoddwyr gael ffurflen EIS3 gan y fenter maen nhw wedi buddsoddi ynddi. Dylai’r buddsoddwr ddefnyddio’r ffurflen hon i hawlio’r gostyngiad yn y dreth ar gyfer y flwyddyn pryd y cyhoeddwyd y cyfranddaliadau, neu gellir ei gario’n ôl i’r flwyddyn dreth flaenorol. Os yw’r buddsoddwr yn talu treth incwm trwy PAYE fel arfer ac mae cyfanswm y gostyngiad yn y dreth yn llai na £5,000, gellir hawlio’r gostyngiad yn y dreth mewn un o ddwy ffordd: naill ai fel addasiad i’r cod PAYE os yw’r gostyngiad yn y dreth yn cael ei hawlio yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, neu fel hawliad a gariwyd yn ôl yn erbyn y dreth incwm ar gyfer y flwyddyn flaenorol, pryd y bydd y gostyngiad yn y dreth yn cael ei ad-dalu i’r buddsoddwr mewn cyfandaliad. Os yw’r buddsoddwr yn hawlio mwy na £5,000 o ostyngiad yn y dreth ac yn talu treth incwm trwy PAYE ar hyn o bryd, gofynnir iddo lenwi ffurflen dreth Hunanasesu. Os yw’r buddsoddwr eisoes yn llenwi ffurflen Hunanasesu flynyddol, dylai hawlio’r gostyngiad yn y dreth y tro nesaf y bydd yn cyflwyno’r ffurflen hon.

Yn ogystal, gall buddsoddwyr elwa o ostyngiad gohirio treth enillion cyfalaf os ydynt yn ailfuddsoddi enillion cyfalaf a wnaed mewn man arall mewn menter sy’n gymwys i gael EIS. 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop