2.6.3 Trosi elusen gofrestredig yn gymdeithas budd cymunedol elusennol

Yng Nghymru a Lloegr, gall elusen gofrestredig sydd hefyd yn gwmni cyfyngedig trwy warant gael ei throsi’n gymdeithas budd cymunedol elusennol, ond dim ond gyda chydsyniad y Comisiwn Elusennau. Byddai angen i unrhyw fath arall o elusen gofrestredig ddilyn y gweithdrefnau diddymu yn ei dogfen lywodraethu. Gallai hyn olygu cael cydsyniad gan y Comisiwn Elusennau, ond nid o reidrwydd. Os nad yw’r ddogfen lywodraethu’n cynnwys pwerau diddymu, neu os yw eiddo’r elusen yn cynnwys gwaddol parhaol, mae’n bosibl y bydd angen i’r elusen gael cydsyniad y Comisiwn Elusennau (gweler www.gov.uk/guidance/how-to-close-a-charity).

Yn yr Alban, ym mhob achos, mae’n rhaid i’r elusen wneud cais i Reoleiddiwr Elusennau yr Alban i newid ei ffurf gyfreithiol. (Gweler www.oscr.org.uk/charities/managing-your-charity/making-changes-to-your-charity). Mae’r un peth yn wir yng Ngogledd Iwerddon, lle mae’n rhaid i gais i newid ffurf gyfreithiol gael ei gyflwyno i Gomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon.

O dan Ddeddf Elusennau 2011, mae’r holl gymdeithasau budd cymunedol elusennol yng Nghymru a Lloegr yn elusennau eithriedig. Mae’r Ddeddf hon yn darparu ar gyfer diwygio rheoleiddio elusennau eithriedig, gan gynnwys penodi prif reoleiddwyr neu ddileu statws elusen eithriedig. Yn ôl Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr:

“Nid oes penderfyniad pendant wedi cael ei wneud ar reoleiddio cymdeithasau budd cymunedol [a chymdeithasau cyfeillgar] fel elusennau yn y dyfodol. Un posibilrwydd yw y gallai’r rhai sy’n ddarparwyr tai cymdeithasol cofrestredig barhau i fod yn eithriedig tra gallai eraill golli eu statws eithriedig os na ellir dod o hyd i brif reoleiddiwr addas.” (Y Comisiwn Elusennau CC23 Elusennau Eithriedig, Medi 2013)

Ar hyn o bryd, felly, yng Nghymru a Lloegr, byddai cwmni elusennol cofrestredig sy’n trosi’n gymdeithas budd cymunedol elusennol gyda chydsyniad y Comisiwn Elusennau i newidiadau i’w erthyglau yn dod yn elusen eithriedig yn awtomatig, a byddai’n cael ei ddileu o gofrestr y Comisiwn Elusennau. Nid yw’r Comisiwn Elusennau’n cynnig arweiniad ar y mater hwn, ond bydd yn ystyried pob cais yn unigol. Ni fydd y Comisiwn Elusennau’n cydsynio os, yn ei farn ef, byddai’r trosi’n arwain at gymdeithas budd cymunedol nad yw’n elusennol. Felly, trwy gytuno ar drosi, mae’r Comisiwn Elusennau’n rhoi ei gymeradwyaeth ymhlyg i natur elusennol y ffurf newydd. HMRC sydd i benderfynu p’un a yw cymdeithas budd cymunedol elusennol yn elusen eithriedig, ond bydd fel arfer yn ildio i farn y Comisiwn Elusennau wrth benderfynu p’un a yw endid cyfreithiol yn elusennol. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop