8.3 Treth incwm

Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, mae’n rhaid i aelodau cymdeithas dalu treth incwm ar eu holl enillion a derbyniadau o’r gymdeithas (gweler Llawlyfr Hawliadau Hunanasesu (SACM) HMRC). Yng nghyd-destun cyfranddaliadau cymunedol, bydd y derbyniadau hyn fel arfer ar ffurf llog ar gyfalaf cyfranddaliadau. Mae llog ar gyfalaf cyfranddaliadau yn draul ddidynadwy at ddibenion treth gorfforaeth, ond mae’r derbyniad yn agored i dreth incwm sy’n daladwy gan yr aelod. Nid yw HMRC fel arfer yn mynnu bod cymdeithasau’n didynnu treth incwm ar log cyfranddaliadau a dalwyd i aelodau; cyfrifoldeb yr aelodau yw datgan eu henillion a’u derbyniadau gros i HMRC, gan gynnwys unrhyw daliadau llog cyfranddaliadau o’r fath. Mae’n rhaid i gymdeithasau roi gwybod i HMRC am unrhyw daliadau llog gros i aelodau ar gyfranddaliadau neu fenthyciadau sy’n werth hyd at £250 neu fwy y flwyddyn, trwy ddarparu enwau a manylion cyswllt yr aelodau hyn. Os telir llog cyfranddaliadau i aelodau nad ydynt yn byw yn y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i’r gymdeithas ddidynnu treth incwm o’r taliad (gweler llawlyfr SAIM 9200 HMRC).

Fodd bynnag, mae llog a delir ar gyfranddaliadau y gellir eu tynnu mewn cymdeithasau yn gymwys ar gyfer y Lwfans Cynilion Personol (PSA) newydd, a gyflwynir ar 6 Ebrill 2016. Bydd y PSA yn cymhwyso cyfradd 0% newydd ar gyfer hyd at £1,000 o gynilion a dderbynnir gan drethdalwyr cyfradd sylfaenol (20%), neu hyd at £500 o incwm cynilion ar gyfer trethdalwyr cyfradd uwch (40%). Ni fydd y PSA yn berthnasol i incwm cynilion a dderbynnir gan drethdalwyr cyfradd ychwanegol 45%.

Os yw aelod eisoes yn talu treth trwy god PAYE, ac mae cyfanswm ei incwm heb ei drethi o gynilion a buddsoddiadau yn llai na £2,500, gall ofyn i unrhyw dreth sy’n ddyledus ganddo gael ei chasglu trwy ei god treth. Os yw ei incwm o’r ffynonellau hyn yn £2,500 neu fwy, bydd angen iddo lenwi ffurflen dreth.

Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd cymdeithas gydweithredol yn talu difidend i aelodau (y cyfeirir ato hefyd fel gostyngiad, taliad bonws, neu ad-daliad) yn seiliedig ar eu trafodion â’r gymdeithas. Mae taliadau o’r fath yn draul ddidynadwy at ddibenion treth gorfforaeth. Fodd bynnag, fe allai fod yn incwm trethadwy i’r aelod, neu beidio. Bydd hyn yn dibynnu ar natur y difidend a natur y trafodion y mae’r difidend wedi’i seilio arnynt. O ran cymdeithasau cydweithredol lle mae’r difidend wedi’i seilio ar bryniadau manwerthu gan aelodau, mae’r difidend yn ostyngiad ar y pris prynu, i bob pwrpas, ac nid yw’n cael ei drin fel incwm trethadwy. Ond o ran cymdeithas gydweithredol lle mae’r difidend wedi’i seilio ar werthiannau neu bryniadau gan aelodau, fel aelodau cymdeithas gydweithredol amaethyddol, bydd y difidend yn cael ei ystyried yn dderbyniad gan yr aelod ac felly’n incwm trethadwy. 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop