8.10.2 Masnachu cydfuddiannol

Masnachu cydfuddiannol yw pan fydd aelodau’n ffurfio cymdeithas gydweithredol i fasnachu er eu budd ei gilydd. Mae enghreifftiau’n cynnwys cydweithfeydd prynu a chydweithfeydd marchnata, lle mae’r aelodau’n dod at ei gilydd i brynu neu werthu nwyddau a gwasanaethau, gan ddefnyddio’r gymdeithas gydweithredol fel cyfrwng, neu asiant, ar gyfer eu masnach. Mae unrhyw arian dros ben a gynhyrchir o’r fasnach hon yn eiddo i’r aelodau yn gymesur â faint o fasnach maen nhw wedi’i chynnal trwy’r gymdeithas gydweithredol.

Nid yw cymdeithas gydweithredol sy’n ymwneud â masnachu cydfuddiannol yn agored i dreth gorfforaeth ar ei harian wrth gefn, ar yr amod ei bod yn bodloni pedwar gofyniad hanfodol a osodwyd gan HMRC. Y cyntaf o’r gofynion hyn yw bod rhaid i unrhyw arian dros ben fynd yn ôl i’r aelodau a gyfrannodd at y fasnach honno, a neb arall. Ni all cymdeithasau budd cymunedol ymwneud â masnachu cydfuddiannol oherwydd bod rhaid i gymdeithasau o’r fath fod o fudd i’r gymuned ehangach ac nid dim ond aelodau. Fodd bynnag, gall cymdeithasau cydweithredol fodloni’r gofyniad hwn os yw eu gweithgareddau masnachu wedi’u cyfyngu i aelodau yn unig ac mae’r gymdeithas dan sylw’n gweithredu fel yr asiant, nid y prif fuddiolwr, ym mhob trafodyn. 

Y tri gofyniad arall yw bod rhaid i gyfranwyr at yr arian dros ben a chyfranogwyr ynddo fod yn unfath, bod rhaid i gyfraniadau dros ben a ddychwelir fod yn gymesur â’r cyfraniadau hynny, a bod rhaid i aelodau reoli unrhyw gronfeydd cyffredin. Mae’r olaf o’r gofynion hyn yn cyd-fynd â’r egwyddor gydweithredol bod rhaid i ran o unrhyw gronfeydd wrth gefn fod yn anwahanadwy os yw aelodau’n rheoli’r cronfeydd cyffredin hyn.

Gallai masnachu cydfuddiannol fod yn berthnasol i unrhyw gymdeithas gydweithredol sy’n masnachu â’i haelodau yn unig, ac nad yw’n masnachu â phobl nad ydynt yn aelodau, neu sy’n cyfrif am fasnachu â phobl nad ydynt yn aelodau ar wahân. Gallai hyn gynnwys cymdeithas gydweithredol defnyddwyr sy’n mynnu bod cwsmeriaid yn dod yn aelodau o’r gymdeithas gydweithredol cyn y gallant ddefnyddio ei gwasanaethau.

Mae HMRC yn dehongli masnachu cydfuddiannol mewn ffordd ychydig yn wahanol pan fydd yn ymwneud â chlwb aelodau sy’n darparu gweithgareddau cymdeithasol a hamdden. Mae unrhyw glwb sydd wedi’i gorffori fel cymdeithas gydweithredol neu gymdeithas budd cymunedol yn cael ei ystyried yn glwb aelodau at ddibenion treth. Pan fydd aelodau’n prynu nwyddau a gwasanaethau trwy’r clwb, ac os yw’r gweithgareddau hyn wedi’u cyfyngu i’r aelodau yn unig, a bod unrhyw arian dros ben sy’n deillio o’r gweithgareddau hyn yn eiddo i’r aelodau, nid yw HMRC yn ystyried hyn fel masnachu, ond fel traul neu ddefnydd o eiddo’r aelodau eu hunain.

Mae arweiniad manwl ar fasnachu cydfuddiannol ar gael yn Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM40950 HMRC.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop