6.2 Llog ar gyfalaf cyfranddaliadau

Caniateir i bob un o’r tri math o gymdeithas dalu llog ar gyfalaf cyfranddaliadau aelodau. Mae’r is-adran hon yn berthnasol i gymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol yn unig. Mae llog ar gyfalaf cyfranddaliadau mewn cymdeithasau budd cymunedol elusennol yn ddarostyngedig i arweiniad ar wahân a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Elusennau a Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban (gweler Adran 6.5). 

Mae canllawiau cofrestru newydd yr FCA, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2015, yn gosod dau ofyniad ar gymdeithasau: “bod y gyfradd llog uchaf a delir ar gyfranddaliadau yn cael ei datgan cyn y cyfnod pryd y bwriedir ei thalu, boed hynny yn ei rheolau neu mewn man arall” ac mai’r “gyfradd llog uchaf a ddatganwyd yw’r gyfradd isaf sy’n ddigonol i gael yr arian angenrheidiol gan aelodau sy’n ymroddedig i gyflawni amcanion y gymdeithas”.

Nid yw Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 yn mynnu bod cymdeithasau’n datgan cyfradd llog uchaf ar gyfalaf cyfranddaliadau yn eu rheolau. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r rheolau enghreifftiol sy’n addas ar gyfer cynigion cyfranddaliadau cymunedol yn datgan cyfradd uchaf. Yn nodweddiadol, mynegir hyn fel “2% uwchlaw cyfraddau banc sylfaenol”, ac mae rhai rheolau enghreifftiol yn ychwanegu, “neu 5%, pa un bynnag sydd uchaf”. Yn ôl un gyfres o reolau enghreifftiol, “ni fydd [cyfraddau llog cyfranddaliadau] yn fwy na’r gyfradd uchaf ar gyfer benthyciadau busnes tymor sefydlog a gyhoeddir gan y Co-operative Bank”. 

Nid yw rhai rheolau enghreifftiol yn ymdrin â chyfraddau llog cyfranddaliadau. Os nad yw cymdeithas yn datgan cyfradd uchaf yn ei rheolau, bydd yr FCA yn disgwyl iddi ddatgan cyfradd uchaf mewn man arall, sef yn ei dogfennau cynnig cyfranddaliadau yn ôl pob tebyg, ymhell cyn i unrhyw log ar gyfranddaliadau gael ei dalu. 

Nid yw’r FCA yn cynnig arweiniad ar sut y gallai cymdeithas bennu’r gyfradd llog isaf ar gyfranddaliadau a fydd yn ddigonol i gynhyrchu’r arian angenrheidiol, na sut y bydd yr FCA yn penderfynu p’un a yw cymdeithas wedi torri’r canllawiau hyn. Mae hyn yn awgrymu bod yr FCA o’r farn bod y mater hwn yn benodol i amgylchiadau pob cymdeithas. Ategir hyn gan dystiolaeth hanesyddol, sy’n dangos bod polisïau cyfradd llog cymdeithasau yn amrywio’n fawr. Yn 2015, dadansoddodd yr Uned Cyfranddaliadau Cymunedol 192 o ddogfennau cynnig cyfranddaliadau, a gyhoeddwyd rhwng 2009 a 2014. Dangosodd hyn ystod eang o bolisïau cyfradd llog cyfranddaliadau, o gymdeithasau a oedd yn datgan na fyddent byth yn talu llog ar gyfalaf cyfranddaliadau (14% o’r sampl), i gymdeithasau a oedd yn anelu at dalu cyfraddau llog cyfranddaliadau o fwy na 7.5% y flwyddyn (10% o’r sampl), gan gynnwys nifer fach o gymdeithasau a oedd yn anelu at dalu mwy na 10% o log cyfranddaliadau y flwyddyn.  

O ystyried yr anawsterau sy’n gysylltiedig â phrofi beth fyddai’r gyfradd llog isaf ar gyfer cynnig cyfranddaliadau, yr unig ddewis arall dibynadwy yw i gymdeithas gymharu ei chyfraddau ar gyfer cynnig cyfranddaliadau â chyfraddau benthyca masnachol ar gyfer yr un cynnig buddsoddi. Os yw aelodau ac ymgeiswyr yn fodlon derbyn cyfradd sydd yr un fath â’r  gyfradd fasnachol neu’n is na’r gyfradd honno, byddai hyn yn profi bod aelodau’n ymroddedig i gyflawni amcanion y gymdeithas ar draul eu buddiannau ariannol eu hunain. Atgyfnerthir hyn gan y ffaith bod gan aelod-gyfranddalwyr lai o sicrwydd o lawer na benthyciwr masnachol. Mae llawer o gymdeithasau’n gwneud trefniadau cyllido wrth gefn pan fyddant yn cynllunio cynnig cyfranddaliadau, rhag ofn na fydd y cynnig yn cyrraedd ei dargedau. Felly, bydd y rhan fwyaf o gymdeithasau’n ymwybodol o gost fasnachol amgen cyfalaf, a gellid defnyddio hyn fel sail i sefydlu’r gyfradd llog uchaf ar gyfer cyfranddaliadau. 

Ni ddylai llog ar gyfalaf cyfranddaliadau fyth gael ei drin fel dosbarthu elw. Yn lle hynny, dylai llog cyfranddaliadau gael ei drin fel traul weithredu yn ôl disgresiwn, sy’n daladwy os gall y gymdeithas fforddio gwneud hynny yn unig, ar ôl ystyried rhwymedigaethau eraill y gymdeithas, a’r angen i ailfuddsoddi yn y gymdeithas. Mae’r FCA yn pwysleisio na ddylai cymdeithas dalu cyfradd llog uwch na’r gyfradd uchaf a ddatganwyd, hyd yn oed os yw wedi gwneud mwy o elw na’r disgwyl, neu wedi talu llai na’r gyfradd uchaf yn y blynyddoedd blaenorol.

At ei gilydd, mae’r FCA yn argymell y dylai cymdeithas ddatgan cyfradd llog cyfranddaliadau uchaf yn ei rheolau a/neu ei dogfen gynnig gyfranddaliadau. Dylai ymrwymo i dalu hyd at y gyfradd llog cyfranddaliadau uchaf hon dim ond pan fydd sefyllfa ariannol y gymdeithas yn hysbys, a’i bod yn fodlon y gall fforddio talu’r gyfradd a gynigiwyd heb greu rhwymedigaethau i gredydwyr eraill, gan ystyried telerau ac amodau’r gymdeithas ar gyfer codi cyfalaf cyfranddaliadau, a’r defnyddiau eraill ar gyfer elw a gynigiwyd gan y gymdeithas. Fel mater o arfer da, dylai’r pwyllgor rheoli gynnig cyfradd llog cyfranddaliadau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd dan ystyriaeth yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y gymdeithas, yn enwedig os yw’r gyfradd a gynigir yn llai na’r gyfradd llog cyfranddaliadau uchaf a ddatganwyd. Dylai’r rhesymau dros gynnig y gyfradd is hon gael eu cyflwyno ochr yn ochr â’r cynigion ar gyfer defnyddio elw (gweler Adran 3.2.12). Yn achos cymdeithasau cydweithredol, gallai un o’r defnyddiau a gynigir ar gyfer elw gynnwys talu difidend i aelodau yn seiliedig ar eu trafodion â’r gymdeithas, sef mater yr ymdrinnir ag ef yn yr adran nesaf.  

Heblaw am gyfraddau llog, mae nifer o faterion eraill i’w hystyried wrth benderfynu ar bolisïau cymdeithas ar daliadau llog. Mae llawer o gymdeithasau’n credydu taliadau llog i gyfrifon cyfranddaliadau aelodau yn hytrach nag anfon sieciau taliad llog. Mae hyn yn cynyddu’r cyfalaf cyfranddaliadau yn y gymdeithas, ac yn gwella hylifedd cyfalaf os nad yw’r arian wedi’i gloi mewn asedau sefydlog.

Fel arfer, telir llog ar gyfalaf cyfranddaliadau ar sail gros gyda threth incwm personol (gweler Adran 8.3). Aelodau sy’n gyfrifol am roi gwybod i HMRC am unrhyw log ar gyfalaf cyfranddaliadau a delir iddynt neu a gredydir i’w cyfrif cyfranddaliadau. Dylai cymdeithasau gadw hyn mewn cof wrth lunio cynlluniau i ganiatáu i aelodau ildio llog ar gyfalaf cyfranddaliadau neu ei roi i achos da. Er na fydd yr aelod yn derbyn y llog, mae’n bosibl y bydd yn atebol am dreth incwm ar y taliad hwnnw o hyd. 

Caiff cymdeithas sydd â mwy nag un dosbarth o gyfranddaliadau dalu gwahanol gyfraddau llog, os bydd hynny’n helpu i gyflawni nodau’r gymdeithas. Er enghraifft, gallai cymdeithas gyhoeddi dosbarth newydd o gyfalaf cyfranddaliadau i ariannu is-gwmni a berchenogir yn llwyr, gyda’r holl risg yn cael ei hysgwyddo gan y cyfalaf newydd hwn. Er mwyn denu’r cyfalaf hwn, mae’n bosibl y bydd angen cynnig cyfradd llog wahanol i honno sy’n berthnasol i gyfranddaliadau eraill yn y gymdeithas.

Efallai y bydd rhai cymdeithasau’n cael eu hariannu gan fenthyciadau aelodau yn ogystal â chyfalaf cyfranddaliadau aelodau. Mewn achosion o’r fath, mae’n arferol i gymdeithas adlewyrchu’r gwahaniaethau mewn amlygiad i risg trwy osod cyfradd llog is ar y cyfalaf benthyciadau na’r cyfalaf cyfranddaliadau. Hyd yn oed os yw’r benthyciadau’n ddiwarant ac yn agored i’r un risgiau â chyfalaf cyfranddaliadau, ni ddylai cymdeithas dalu cyfradd llog uwch ar fenthyciadau na chyfranddaliadau. Yr unig eithriad yw pe byddai gan y gymdeithas sail i gredu na fyddai’n gallu denu cyfalaf ychwanegol oni bai ei bod yn cynnig cyfradd llog uwch ar gyfalaf cyfranddaliadau. 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop