2.3 Hylifedd cyfranddaliadau y gellir eu codi

Mae cyfranddaliadau y gellir eu codi yn cynnig ffordd i fuddsoddwyr dynnu’n ôl o fuddsoddiad nad yw ar gael i fuddsoddwyr mewn cyfranddaliadau trosglwyddadwy. Yr hylifedd hwn yw’r prif reswm pam mae’r math hwn o gymdeithas mor addas i fenter gymunedol sydd â llawer o fuddsoddwyr. Y ffordd orau y gellir cyflawni hylifedd i fuddsoddwyr a chanddynt gyfalaf cyfranddaliadau trosglwyddadwy yw i’r fenter fod yn ddigon mawr i gael ei rhestru ar gyfnewidfa stoc. Mae cyfnewidfa stoc yn gweithio pan fydd digon o brynwyr a gwerthwyr yn dangos diddordeb mewn cyfranddaliadau menter i gynhyrchu hylifedd. Fel arfer, bydd angen i fenter fod wedi cyhoeddi rhwng £10 miliwn a £25 miliwn o gyfalaf cyfranddaliadau cyn iddi gyflawni hylifedd ar gyfnewidfa stoc. O ran mentrau llai, darperir hylifedd fel arfer trwy werthu’r holl gyfranddaliadau i unigolyn neu fenter arall, ond gellir gwneud penderfyniadau o’r fath yn rhwydd dim ond os yw perchenogaeth y fenter wedi’i chyfyngu i lond dyrnaid o gyfranddalwyr sydd â rheolaeth fwyafrifol. Fel arall, mae rhai mentrau’n ymwneud â gwasanaethau cyfateb bargen, sy’n golygu bod darparwr gwasanaeth trydydd parti’n cyfateb prynwyr a gwerthwyr cyfranddaliadau trosglwyddadwy, ar ran y fenter. 

Mae cyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei godi yn datrys problem hylifedd ar gyfer buddsoddwyr, ond mae’n gwneud hynny trwy greu cyfrifoldeb i gymdeithasau ddarparu’r hylifedd hwnnw. Dyma un o’r gwahaniaethau mawr rhwng cymdeithas a chwmni, nad yw’n gyfrifol am ddarparu hylifedd ar gyfer cyfranddalwyr oni bai ei fod wedi cyhoeddi cyfranddaliadau adbrynadwy.

Yn ôl canllawiau cofrestru newydd yr FCA, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2015, dylai cymdeithas ganiatáu codi cyfranddaliadau dim ond “os oes ganddi arian dros ben o fasnachu sy’n cyfateb i werth y cyfranddaliadau dan sylw neu’n fwy na hynny, ac mae’r cyfarwyddwyr yn credu bod y gymdeithas yn gallu fforddio talu ei dyledion o ystyried ei holl rwymedigaethau (gan gynnwys p’un a fydd yn gallu talu ei dyledion ar y dyddiad codi, ac am flwyddyn wedi hynny, unrhyw rwymedigaethau digwyddiadol neu arfaethedig), a sefyllfa’r gymdeithas ar ddyddiad y trafodyn”.

Dyma’r tro cyntaf i’r FCA wneud datganiad polisi cyhoeddus ynglŷn â chodi cyfalaf cyfranddaliadau. Nid yw Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 yn dweud llawer am godi cyfalaf cyfranddaliadau. Fodd bynnag, mae Adran 124 y Ddeddf yn gwneud aelodau’n gwbl atebol am werth eu cyfalaf cyfranddaliadau a ddaliwyd hyd at flwyddyn cyn i’r gymdeithas gael ei dirwyn i ben, pe byddai’r gymdeithas yn mynd yn ansolfent, hyd yn oed os yw’r aelod wedi codi ei gyfalaf cyfranddaliadau ac wedi peidio â bod yn aelod o’r gymdeithas. Mae hyn yn gosod dyletswydd ar gyfarwyddwyr i beidio â chaniatáu codi cyfalaf cyfranddaliadau os oes sail i gredu y gallai’r gymdeithas fynd yn ansolfent. Dylai codi cyfalaf cyfranddaliadau gael ei gyfyngu neu ei atal os bydd rhwymedigaethau’r gymdeithas yn mynd yn fwy na’i hasedau, neu mewn perygl o fynd felly yn ystod y deuddeg mis nesaf.

Y prif arwydd sy’n dangos y gallai cymdeithas fynd yn ansolfent yw os yw wedi cronni colledion neu gronfeydd wrth gefn negyddol. Bydd unrhyw swm o gronfeydd wrth gefn negyddol yn golygu na fyddai’r gymdeithas yn gallu talu gwerth llawndaledig llawn ei chyfalaf cyfranddaliadau pe byddai’n peidio â masnachu. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylai cymdeithas naill ai atal codi cyfranddaliadau, neu ganiatáu codi cyfranddaliadau gostyngol yn unig os yw ei rheolau’n darparu ar gyfer trefniant o’r fath (gweler Adran 3.2.9). Os bydd cronfeydd wrth gefn negyddol cymdeithas yn fwy na chyfanswm ei chyfalaf cyfranddaliadau, golyga hynny ei bod yn ansolfent, a dylai roi’r gorau i fasnachu, oni bai bod gan y cyfarwyddwyr sail i gredu bod y gymdeithas yn masnachu’n broffidiol ac y gall leihau ei cholledion cronedig.

Ystyrir bod gofyniad yr FCA sy’n mynnu y dylai arian dros ben o fasnachu gyfateb i gyfranddaliadau a godir, neu fod yn fwy na nhw, yn golygu na ddylai cymdeithas ganiatáu codi cyfranddaliadau os yw’r gymdeithas yn ansolfent, neu os gallai fynd yn ansolfent, oni bai bod rheolau’r gymdeithas yn darparu ar gyfer codi cyfranddaliadau cyfyngedig mewn amgylchiadau o’r fath. Byddai’r dehongliad hwn o bolisi’r FCA yn golygu y gallai codi cyfranddaliadau gael ei ariannu hefyd gan fewnlif cyfalaf cyfranddaliadau newydd, ailfuddsoddi llog cyfranddaliadau a difidendau gan aelodau, a gostyngiadau mewn gofynion cyfalaf cymdeithas.

Mae gwahaniaeth pwysig rhwng diddyledrwydd a hylifedd. Nid yw’r ffaith syml bod gan gymdeithas arian parod i dalu am godi cyfranddaliadau yn golygu ei bod yn solfent, nac y gellir caniatáu codi cyfranddaliadau. Yn yr un modd, gallai cymdeithas solfent sydd ag elw cronedig fod mewn sefyllfa lle nad yw’n gallu caniatáu codi cyfranddaliadau oherwydd nid oes ganddi arian parod ar gael i wneud hynny. Mae gan gymdeithas solfent ddyletswydd i gynnal sefyllfa arian parod sy’n caniatáu iddi gyflawni telerau ac amodau ei chyfalaf cyfranddaliadau.

Gall cymdeithas reoli ei hylifedd cyfalaf mewn sawl ffordd. Mae ganddi bwerau i osod telerau ac amodau ar gyfer codi cyfalaf cyfranddaliadau yn ei rheolau (gweler Adran 3.2.9). Mae hyn fel arfer yn cynnwys rheolau sy’n mynnu bod aelodau’n rhoi cyfnod rhybudd penodol, o wythnos i flwyddyn, o’u cais i godi rhywfaint o’u cyfalaf neu eu holl gyfalaf; rheolau sy’n gosod terfyn ar gyfanswm y cyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei godi mewn unrhyw flwyddyn ariannol; a rheolau sy’n caniatáu i’r gymdeithas ostwng gwerth ei chyfalaf cyfranddaliadau. Yn ogystal, gall cymdeithas fabwysiadu rheol sy’n galluogi’r pwyllgor rheoli i atal codi cyfranddaliadau. Mae’r rheol hon yn orfodol os yw’r gymdeithas am gyflwyno ei chyfalaf cyfranddaliadau fel ased ar ei mantolen.

Pa ddull bynnag o ddarparu hylifedd a ddefnyddir, bydd angen i’r gymdeithas sefydlu balansau arian parod sy’n gallu bodloni ceisiadau am godi cyfranddaliadau. Gall cymdeithas ddarparu hylifedd ar gyfer aelodau mewn pum prif ffordd. Mae’r holl ddulliau hyn yn dibynnu ar y ffaith bod y gymdeithas yn solfent yn y lle cyntaf. Cyn cyhoeddi cyfranddaliadau cymunedol, dylai cymdeithas benderfynu pa un o’r dulliau hyn y bydd yn defnyddio, a sicrhau bod hyn wedi’i adlewyrchu yn ei chynllun busnes a’i dogfen cynnig cyfranddaliadau. Bydd hyn, yn ei dro, yn dibynnu ar fan cychwyn y gymdeithas, ei gweithgareddau masnachu, ei hamcanion a’i diben. Gellir defnyddio’r dulliau yn unigol neu gyda’i gilydd.

  • Cael cyfalaf cyfranddaliadau newydd: Gellir cyflawni hyn trwy gynnig agored, a fydd yn galluogi’r gymdeithas i recriwtio aelodau newydd a chael cyfalaf cyfranddaliadau newydd. Mae cynigion agored yn gweithio orau pan fydd y gymuned eisoes yn ymwneud â’r gymdeithas fel cwsmeriaid, gwirfoddolwyr, cyflogeion, neu gyflenwyr, a fydd yn gwneud y gwahoddiad i ddod yn aelod ac yn fuddsoddwr yn fwy atyniadol. Gellir annog aelodau presennol i fuddsoddi cyfalaf ychwanegol newydd hefyd.
  • Ailfuddsoddi gan aelodau presennol: Mae’n gyffredin i gymdeithasau gredydu cyfrifon cyfranddaliadau aelodau presennol â llog cyfranddaliadau a/neu daliadau difidend, gan felly ailfuddsoddi’r arian hwn yng nghyfalaf cyfranddaliadau’r gymdeithas. Yn dibynnu ar raddfa’r taliadau hyn, gallant fod yn ffynhonnell sylweddol o gyfalaf newydd. Y twf canlyniadol yng ngwerth cyfrif cyfranddaliadau aelod fydd yr agosaf y daw aelod at gyflawni enillion cyfalaf mewn cymdeithas.  
  • Adbrynu o gronfeydd wrth gefn: Caiff cymdeithas broffidiol sy’n cronni cronfeydd wrth gefn ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn hyn i ariannu codi cyfranddaliadau a lleihau ei rhwymedigaeth am log cyfranddaliadau.
  • Gostyngiad mewn gofynion cyfalaf: Mae rhai cymdeithasau, yn enwedig y rhai hynny yn y sector ynni cymunedol, yn cynllunio ar gyfer gostwng eu gofynion cyfalaf yn ystod oes eu hasedau sefydlog, a dirwyn y gymdeithas i ben ar ryw adeg yn y dyfodol a bennwyd o flaen llaw. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n rhesymol caniatáu codi cyfalaf cyfranddaliadau yn unol â dibrisiad asedau sefydlog y gymdeithas.
  • Disodli â chyfalaf benthyciadau: Gallai cymdeithasau solfent sydd wedi ailfuddsoddi cronfeydd wrth gefn mewn asedau busnes ac nad oes ganddynt arian parod i ariannu codi cyfranddaliadau benderfynu benthyca cyfalaf i ddarparu hylifedd. 

Mae’r rhan fwyaf o gymdeithasau newydd yn atal codi cyfalaf cyfranddaliadau am gyfnod cychwynnol o hyd at bum mlynedd. Gellir cyfiawnhau hyn gan amcanestyniadau ariannol y gymdeithas a phan fydd yn disgwyl cael elw argadwedig cronedig. Fodd bynnag, mae anfanteision yn gysylltiedig ag atal codi cyfranddaliadau am gyfnodau hir, yn enwedig os yw hyn yn golygu nad yw cymdeithas yn gallu gwneud cynnig agored a recriwtio aelodau newydd (gweler Adran 4.6). 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop