8.6 Gostyngiad yn y Dreth ar gyfer Buddsoddiad Cymdeithasol

Lansiwyd Gostyngiad yn y Dreth ar gyfer Buddsoddiad Cymdeithasol (SITR) ym mis Ebrill 2014 er mwyn ceisio annog unigolion digyswllt i fuddsoddi mewn mentrau cymdeithasol. Ar 6 Ebrill 2017, ymestynnwyd y cynllun i ganiatáu i fenter gymdeithasol dderbyn hyd at £1.5 miliwn o fuddsoddiadau cymwys o dan y cynllun hwn o fewn saith mlynedd o’i gwerthiant masnachol cyntaf. O ran mentrau hŷn, mae’r egwyddor cymorth gwladwriaethol de minimis yn berthnasol o hyd, gan gyfyngu buddsoddiadau cymwys i’r hyn sy’n cyfateb i €344,000 mewn sterling yn ystod unrhyw gyfnod treigl o dair blynedd.

Mae’r rheolau ar gyfer SITR yn adlewyrchu’r rhai hynny ar gyfer EIS a SEIS, ond nid ym mhob maes. Er enghraifft, mae’r rheolau ynglŷn ag unigolion cysylltiedig ac is-endidau yn debyg iawn.

Yn yr un modd ag EIS a SEIS, mae’n rhaid i’r fenter gymdeithasol fod yn ymwneud â gweithgaredd masnachu cymwys. Mae hyn yn golygu nad yw mentrau cymdeithasol sy’n dibynnu’n gyfan gwbl ar incwm gwirfoddol, incwm trwy roddion neu incwm trwy fuddsoddiadau yn gymwys. Ond mae menter gymdeithasol sydd ag is-gwmni masnachu a berchenogir yn llwyr neu gan fwyafrif yn gymwys, ar yr amod bod yr arian a godir yn cael ei fuddsoddi yn y gweithgaredd masnachu. Mae rhai mân wahaniaethau yn y diffiniad o weithgareddau masnachu cymwys. O dan y newidiadau a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2017, mae pob math o weithgareddau cynhyrchu ynni, prydlesu a hurio asedau, darparu gwasanaethau ariannol i fentrau cymdeithasol, a gweithredu neu reoli cartrefi nyrsio neu breswyl, wedi cael eu heithrio. Ond mae darparu gwasanaethau cyfreithiol a chyfrifeg, a gweithredu neu reoli gwestai neu sefydliadau tebyg yn parhau i fod yn weithgareddau masnachu cymwys. Mae’r llywodraeth hefyd wedi dweud y bydd yn cyflwyno cynllun achrededig ar gyfer darparu gofal cymdeithasol fforddiadwy, a fydd yn weithgaredd masnachu cymwys at ddibenion SITR.

Mae gwahaniaethau mawr yn y math o fentrau sy’n gymwys ar gyfer SITR a natur y buddsoddiadau. Mae SITR ar gael ar gyfer buddsoddi mewn mentrau cymdeithasol yn unig. Mae SITR yn diffinio mentrau cymdeithasol fel elusennau, cwmnïau budd cymunedol, a rhai mathau o gymdeithasau budd cymunedol. Yr hyn sydd wrth wraidd y diffiniad hwn yw’r gofyniad bod gan y fenter glo asedau a ddiffiniwyd yn statudol, felly dim ond cymdeithasau budd cymunedol sydd â’r clo asedau rhagnodedig (gweler Adran 2.4) sy’n bodloni’r diffiniad, ynghyd â chymdeithasau budd cymunedol elusennol, y mae eu clo asedau’n cael ei bennu gan y gyfraith elusennau. Nid yw cymdeithasau cydweithredol wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwn gan nad oes clo asedau statudol ar gyfer y math hwn o gymdeithas. Mae meini prawf cymhwysedd eraill yn cynnwys gofyniad na chaiff y fenter gymdeithasol fod â mwy na 250 o gyflogeion na mwy na £15 miliwn mewn asedau gros.

Mae SITR ar gael ar gyfer buddsoddiad dyled ac ecwiti mewn mentrau cymdeithasol. Mae’r ffaith bod cyllid dyled yn gymwys yn golygu bod SITR yn wahanol iawn i EIS a SEIS, y mae’r ddau ohonynt yn berthnasol i fuddsoddiad ecwiti yn unig. I fod yn gymwys ar gyfer SITR, mae’n rhaid i gyllid dyled fod yn ddiwarant ac ni chaniateir allanfa a drefnwyd o flaen llaw ar gyfer y buddsoddwr am dair blynedd o leiaf. Mae’n rhaid iddo fod yn israddol i’r holl ddyledion eraill a ddelir gan y fenter gymdeithasol a pheidio â denu cyfradd llog sy’n fwy na’r gyfradd fasnachol. 

Yn yr un modd â SEIS, mae’r uchafswm y gall menter gymdeithasol hŷn ei godi wedi’i gyfyngu i’r terfyn cymorth gwladwriaethol de minimis o €200,000. Ond, yn wahanol i SEIS, sy’n cyfyngu’r uchafswm y gellir ei godi i £150,000, mae SITR yn defnyddio fformiwla i gyfrifo’r uchafswm, yn seiliedig ar werth y gostyngiadau yn y dreth, llai unrhyw gymorth gwladwriaethol y mae’r fenter gymdeithasol eisoes wedi’i dderbyn yn ystod cyfnod cymhwyso treigl o dair blynedd. Yn ôl cyfraddau presennol gostyngiad yn y dreth, mae hyn yn €344,827, neu ychydig dros £250,000.  

Yn yr un modd ag EIS, mae SITR yn ostyngiad yn y dreth ar gyfer unigolion (nid cyrff corfforaethol) ac mae wedi’i osod ar 30% ar hyn o bryd. Yr uchafswm y gall buddsoddwr ei fuddsoddi mewn cynlluniau SITR yw £1 filiwn y flwyddyn. Nid yw unigolion yn gymwys i fuddsoddi mewn menter gymdeithasol o dan SITR os ydynt wedi buddsoddi yn yr un fenter yn flaenorol, ac ni wnaed y buddsoddiadau hyn o dan SITR neu un o’r cynlluniau eraill ar gyfer gostyngiad yn y dreth yr ymdrinnir â nhw yn yr adran hon o’r llawlyfr. Nid yw unigolion cysylltiedig, a ddiffinnir mewn ffordd debyg i EIS a SEIS, yn gymwys ar gyfer SITR, gan gynnwys unrhyw fuddsoddwr sydd â mwy na 30% o gyfanswm y cyfalaf benthyciadau neu hawliau pleidleisio. Mae buddsoddwyr yn gymwys ar gyfer gostyngiad dal drosodd enillion cyfalaf ar enillion a ailfuddsoddir mewn cynlluniau SITR, ac am ostyngiad gwaredu enillion cyfalaf ar enillion a wnaed ar fuddsoddiadau SITR cymwys.

Nid yw SITR ar gael ar gyfer unrhyw fuddsoddiad y mae’r buddsoddwr eisoes wedi derbyn SEIS, EIS neu Ostyngiad yn y Dreth ar gyfer Buddsoddiad Cymunedol ar ei gyfer. Ond gall menter gymdeithasol gynnig SITR ar gyllid dyled ar y cyd â SEIS ar gyfer cyllid ecwiti, ar yr amod nad yw’r budd cronnol trwy ostyngiad yn y dreth yn fwy na’r cyfyngiadau uchaf sy’n berthnasol i bob cynllun; er hynny, yn achos mentrau cymdeithasol hŷn, mae’r cyfyngiadau hyn wedi’u seilio ar gymorth gwladwriaethol de minimis, ac mae hyn wedi cael ei ddehongli ychydig yn wahanol ar gyfer pob cynllun, felly mae’n bosibl y bydd angen i HMRC bennu pa fuddsoddiad a wnaed gyntaf er mwyn cyfrifo faint y gellir ei fuddsoddi ym mhob cynllun. Gall menter gymdeithasol hefyd gynnig SITR ar gyfalaf benthyciadau ar yr un pryd â chynnig EIS ar gyfalaf cyfranddaliadau; mae’r cynlluniau hyn yn annibynnol ar ei gilydd, ac nid yw EIS yn ddarostyngedig i reolau cymorth gwladwriaethol de minimis, er ei fod yn ddarostyngedig i reolau oedran y fenter.

Mae SITR yn cael ei weinyddu gan y SCEC yn HMRC. Mae’r trefniadau’n debyg i’r rhai hynny ar gyfer SEIS ac EIS, gan gynnwys y darpariaethau ar gyfer sicrwydd o flaen llaw. Mae buddsoddiadau cymwys a wnaed ar 6 Ebrill 2014 neu wedi hynny yn gymwys.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop