1.2.5 Enillion cyfalaf

Am y rhesymau a esboniwyd eisoes yn yr Adran hon, mae enillion cyfalaf yn anghydnaws ag egwyddorion cyfranddaliadau cymunedol. Mae’r cyfle i gyfranddaliwr mewn cymdeithas wneud enillion cyfalaf naill ai wedi’i gyfyngu neu ei ddileu gan ddwy brif drefn, sef natur cyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei godi, a’r clo asedau.  

Nid oes modd gwerthu na throsglwyddo cyfalaf cyfranddaliadau anhrosglwyddadwy, y gellir ei godi, i drydydd partïon, heblaw pan fydd yr aelod wedi marw ac mae rheolau’r gymdeithas yn caniatáu i’r cyfranddaliadau gael eu trosglwyddo ar farwolaeth aelod. Yn lle hynny, gellir codi cyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei godi o’r gymdeithas, yn ddarostyngedig i delerau ac amodau (gweler Adran 2.2.2). Bydd hyn fel arfer am werth llawndaledig y cyfranddaliadau, er bod gan rai cymdeithasau reolau sy’n caniatáu iddynt ddisgowntio gwerth y cyfalaf cyfranddaliadau mewn amgylchiadau arbennig.

Gall cymdeithasau gyhoeddi cyfranddaliadau trosglwyddadwy a allai, yn ddamcaniaethol o leiaf, fod yn ddarostyngedig i enillion (neu golledion) cyfalaf. Gall cyfranddalwyr trosglwyddadwy werthu neu drosglwyddo eu cyfranddaliadau am ba bris bynnag y mae prynwr yn cytuno ei dalu. Fodd bynnag, mae cyfalaf cyfranddaliadau trosglwyddadwy y tu hwnt i gwmpas yr Uned Cyfranddaliadau Cymunedol am resymau a esbonnir mewn man arall yn y Llawlyfr (gweler Adran 2.2.3). Ni all cymdeithasau budd cymunedol elusennol gyhoeddi cyfranddaliadau trosglwyddadwy, oherwydd byddai hyn yn torri rheolau budd cyhoeddus elusennol.

Gallai cyfranddalwyr gyflawni enillion cyfalaf hefyd pe byddai’r gymdeithas yn gallu dosbarthu asedau gweddilliol wrth iddi gael ei diddymu, neu ei throsi’n ffurf gyfreithiol arall. Mae hyn yn cael ei gyfyngu neu ei atal yn sgil y ffaith bod y gymdeithas yn defnyddio clo asedau; rheol sy’n gwahardd dosbarthu unrhyw asedau gweddilliol i aelodau. Gall cloeon asedau fod yn wirfoddol, gallant gael eu rhagnodi’n gyfreithiol, neu gallant fod â rhyw fath arall o sail statudol.

Gall cymdeithas budd cymunedol fod â chlo asedau gwirfoddol, neu gall fod â chlo asedau statudol trwy ddod yn gymdeithas budd cymunedol rhagnodedig (gweler Adran 2.4). Mae cymdeithas budd cymunedol elusennol yn ddarostyngedig i’r un gofynion clo asedau sy’n  berthnasol i bob elusen yn y Deyrnas Unedig.

Mae sefyllfa cymdeithasau cydweithredol yn gymhleth. Mae gan y rhan fwyaf o gymdeithasau cydweithredol glo asedau gwirfoddol sy’n atal dosbarthu asedau gweddilliol i aelodau. Ond nid oes clo asedau statudol ar gael ar gyfer cymdeithasau cydweithredol.

Yn ôl Datganiad Hunaniaeth, Gwerthoedd ac Egwyddorion yr ICA, “mae rhan, o leiaf, o’r cyfalaf [hwnnw] yn eiddo cyffredin i’r gymdeithas gydweithredol, fel arfer” a dylai cymdeithasau cydweithredol ddefnyddio rhywfaint o’u harian dros ben i sefydlu “cronfeydd wrth gefn, y byddai rhan ohonynt, o leiaf, yn anwahanadwy”. Mae hyn yn awgrymu y dylai cymdeithasau cydweithredol fod â chlo asedau rhannol o leiaf. Fodd bynnag, nid yw deddfwriaeth cymdeithasau’n cynnwys unrhyw beth i atal cymdeithas gydweithredol rhag troi’n gwmni, a fyddai, yn ei dro, yn ei galluogi i ddosbarthu asedau gweddilliol i aelodau.

Er bod enillion cyfalaf yn anghydnaws â chyfranddaliadau cymunedol, mae twf mewn daliadau cyfranddaliadau aelodau yn gyffredin mewn cymdeithasau sy’n credydu taliadau cyfranddaliadau i gyfrifon cyfranddaliadau aelodau. Gallai’r math hwn o ailfuddsoddi fod yn elfen bwysig o ddarpariaethau hylifedd cyfalaf cymdeithas (gweler Adran 2.3). 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop