6.1 Egwyddorion arweiniol

Mae proffidioldeb yn ganolog i gynaliadwyedd ariannol tymor hir pob menter. Mae’n galluogi mentrau i greu cronfeydd wrth gefn rhydd, ariannu cost cyfalaf, darparu enillion i gyfranddalwyr, a chefnogi buddiolwyr. Bydd colledion parhaus yn dihysbyddu cyfalaf cyfranddalwyr ac yn bygwth dyfodol y fenter fel busnes gweithredol yn y pen draw.

Mae diben a defnydd elw mewn cymdeithas yn wahanol iawn i’w ddiben a’i ddefnydd mewn cwmni cyfyngedig preifat neu gyhoeddus. Mewn menter breifat, y diben yw cynyddu cyfoeth cyfranddalwyr i’r eithaf trwy gynhyrchu elw ac enillion cyfalaf. Nid felly mewn cymdeithasau. Yn ôl Adran 2(3) Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, “nid yw cymdeithas gydweithredol yn cynnwys cymdeithas sy’n cynnal busnes, neu’n bwriadu cynnal busnes, gyda’r nod o wneud elw yn bennaf i dalu llog, difidendau neu daliadau bonws ar arian sydd wedi’i fuddsoddi yn y gymdeithas neu unrhyw unigolyn arall, ei adneuo gyda hi/gydag ef, neu ei fenthyca iddi/iddo.”  Mae Adran 2(2)(ii) yn diffinio diben cymdeithas budd cymunedol fel cymdeithas sy’n “cael ei chynnal, neu y bwriedir iddi gael ei chynnal, er budd y gymuned”.

Mae talu llog ar gyfalaf cyfranddaliadau a ddelir mewn cymdeithas yn cael ei ystyried yn draul weithredu yn ôl disgresiwn, ac nid yn ddosbarthu elw. Dylai cymdeithas fod yn ofalus wrth bennu cyfraddau llog cyfranddaliadau, gan osod y gyfradd isaf sy’n ddigonol i ddenu’r cyfalaf y mae arni ei angen, ac egluro wrth aelodau y bydd y gyfradd hon yn cael ei thalu dim ond os yw’n fforddiadwy i’r gymdeithas.

Mae cymdeithasau budd cymunedol elusennol yn sefydliadau nid-er-elw-preifat, sydd hefyd yn ddarostyngedig i’r gyfraith elusennau, ac mae ganddynt agwedd wahanol at ddefnyddio arian dros ben. Amlinellir hyn yn y Datganiad o Arfer Argymelledig (SORP), a gynhyrchwyd ar y cyd gan y Comisiwn Elusennau a Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban, sy’n rhoi argymhellion ynglŷn â’r safonau cyfrifyddu ac adrodd sy’n berthnasol i elusennau. Mae incwm dros ben ar ôl gwariant yn cael ei ystyried yn adnodd ar gyfer gweithgareddau elusennol yn y dyfodol, na ddylid ei ddosbarthu at ddibenion eraill. Mae llog a delir i gyfranddalwyr mewn cymdeithas budd cymunedol elusennol yn draul a ganiateir, yn amodol ar y darpariaethau a ddisgrifir yn Adran 6.5.

Mae Adran 14(12) Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 yn mynnu bod pob cymdeithas yn sefydlu rheolau sy’n datgan “sut y bydd elw’r gymdeithas yn cael ei ddefnyddio” (gweler Adran 3.2.12). Fel arfer, mae rheolau enghreifftiol cymdeithasau cydweithredol yn cynnwys y pŵer i dalu difidend i aelodau sy’n deillio o elw, yn gymesur â thrafodion yr aelodau â’r gymdeithas gydweithredol; nid yw’r dewis hwn ar gael i gymdeithasau budd cymunedol. Fel rheol, bydd gan bob cymdeithas reolau sy’n caniatáu i’r gymdeithas fuddsoddi rhywfaint o’r elw yn natblygiad y gymdeithas, ac i ddefnyddio rhywfaint er budd y gymuned ehangach.

Mae’n rhaid i gymdeithasau budd cymunedol a chymdeithasau budd cymunedol elusennol ddefnyddio eu harian dros ben ar gyfer buddion cymunedol neu amcanion elusennol. Gellir cyflawni hyn trwy ailfuddsoddi yn y gymdeithas, gwario arian dros ben ar weithgareddau elusennol neu fudd cymunedol (cyflenwi mewnol), neu roi’r arian dros ben i sefydliadau cymunedol neu elusennau eraill sydd â’r un amcanion neu amcanion tebyg (cyflenwi allanol).

Mae enghreifftiau o gyflenwi mewnol yn cynnwys sefyllfa lle mae cymdeithas ynni cymunedol, sy’n ymwneud â masnach cynhyrchu trydan, yn penderfynu cyflogi rhywun i roi cyngor ar arbed ynni i’r gymuned leol. Mae gwariant o’r fath yn draul weithredu gyfreithlon i’r gymdeithas, os yw’n gysylltiedig â chyflawni ei hamcanion, a dylai gael ei osod yn erbyn arian dros ben o fasnachu.

Pan fydd cymdeithas yn defnyddio dulliau cyflenwi allanol er budd cymunedol neu elusennol, dylai geisio gwneud hynny mewn ffordd effeithlon o ran treth, gan sicrhau bod rhoddion yn manteisio ar rodd cymorth lle bynnag y bo’n bosibl. 

Fel mater o arfer da, dylai cymdeithas roi adroddiad blynyddol i’w haelodau sy’n manylu ar faint o’i harian dros ben o fasnachu sy’n cael ei ddefnyddio er budd cymunedol neu elusennol trwy ddulliau cyflenwi mewnol ac allanol.

Dylai cymdeithasau hefyd sefydlu darpariaethau ar gyfer codi cyfalaf cyfranddaliadau yn y dyfodol, trwy ddefnyddio arian dros ben i greu cronfeydd arian parod wrth gefn (gweler Adran 2.3). Dylai’r cronfeydd wrth gefn hyn fod yn ddigonol i fodloni’r telerau codi cyfalaf cyfranddaliadau a bennir yn rheolau’r gymdeithas (gweler Adran 3.2.9).

Nid yw Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 yn ymdrin â’r amgylchiadau pryd y gellir talu llog ar gyfalaf cyfranddaliadau. Fodd bynnag, ni fyddai’r FCA fel arfer yn ystyried bod talu llog ar gyfalaf cyfranddaliadau yn gyfystyr â dosbarthu elw. Mae safonau cyfrifyddu’r Deyrnas Unedig a HMRC yn trin y llog sy’n daladwy ar gyfalaf cyfranddaliadau anhrosglwyddadwy y gellir ei godi fel traul weithredu fusnes cyn-elw hefyd. Mae llog a delir ar gyfalaf cyfranddaliadau mewn cymdeithas yn draul fusnes ddidynadwy cyn unrhyw rwymedigaeth i dreth gorfforaeth.

Mae’r is-adrannau canlynol yn rhoi mwy o arweiniad ar sut y dylai pob un o’r tri phrif fath o gymdeithas ddefnyddio a dosbarthu elw, a ragflaenir gan is-adran ar yr egwyddorion cyffredinol sy’n ymwneud â llog a delir ar gyfalaf cyfranddaliadau. 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop