1.1 Ecwiti ar gyfer mentrau cymdeithasol

Mae angen i bob menter gael cyfalaf risg i ddechrau, i dyfu, ac i fod yn gynaliadwy. Fel arfer, darperir y cyfalaf hwn gan berchenogion y fenter sy’n dal cyfranddaliadau, yn ogystal â chyllid gan fenthycwyr ac, wrth gwrs, gan y busnes ei hun, trwy ailfuddsoddi ei elw. Mae cyfalaf risg yn caniatáu i’r fenter ymdopi â throeon datblygu, sydd i’w disgwyl wrth geisio cyflawni nodau busnes uchelgeisiol, heriol neu arloesol.

Un o’r prif resymau pam mae’n gallu bod yn anodd i fentrau cymdeithasol gystadlu â mentrau preifat yw eu diffyg cyfalaf risg. Un o achosion sylfaenol y tangyfalafu hwn yw’r gred na all, neu na ddylai, mentrau cymdeithasol gael cyfranddalwyr. Mae buddsoddi ecwiti yn cael ei ystyried yn anathema, oherwydd bod cyfranddaliadau’n rhoi teitl cyfreithiol, sy’n golygu bod y fenter yn cael ei pherchen, ei rheoli a’i chynnal er budd buddsoddwyr.

Mae sefydliadau buddsoddi cymdeithasol wedi datblygu dewisiadau eraill: lled-ecwiti, cyfalaf tymor estynedig, a bondiau effaith gymdeithasol. Ond, math o ddyled yw’r rhan fwyaf o’r cynhyrchion hyn, yn y pen draw, ac mae unrhyw ddyledrwydd yn fath gwael o gyfalaf risg, yn enwedig i fentrau cymdeithasol, lle gallai’r lefelau uchel o broffidioldeb y mae eu hangen i ad-dalu’r ddyled fod yn anghydnaws â’u nodau cymdeithasol. Mae’n rhaid i bob dyled, pa estynedig bynnag yw ei thymor, gael ei had-dalu yn y diwedd.

Diffinnir mentrau cymdeithasol fel busnesau a chanddynt “brif amcanion cymdeithasol y mae eu harian dros ben yn cael ei ailfuddsoddi at y diben hwnnw’n bennaf yn y busnes neu’r gymuned, yn hytrach na chael eu sbarduno gan yr angen i sicrhau’r elw mwyaf ar gyfer cyfranddalwyr a pherchenogion”.

Mae diben, amcanion ac ymddygiad menter gymdeithasol wedi’u hymgorffori yn ei ffurf gyfreithiol a’i dogfen lywodraethu. Mae sawl gwahanol fath o fenter gymdeithasol, gan gynnwys elusennau, sefydliadau corfforedig elusennol, sefydliadau corfforedig elusennol yr Alban, cwmnïau nid er elw sy’n gyfyngedig trwy warant, cwmnïau budd cymunedol, cymdeithasau cydweithredol, a chymdeithasau budd cymunedol. Mae gan bob un o’r rhain ymagwedd unigryw at amcanion cymdeithasol, perchenogaeth, rheolaeth a chyllid cyfalaf.

Mae’r term “cyfranddaliadau cymunedol” yn cyfeirio at gyfalaf cyfranddaliadau anhrosglwyddadwy, y gellir ei godi; math o ecwiti sy’n unigryw i ddeddfwriaeth cymdeithasau cydweithredol a budd cymunedol. Mae’r gangen hon o gyfraith corfforaethol yn darparu llawer o’r un nodweddion â deddfwriaeth cwmnïau, fel statws corfforaeth gorfforedig ac atebolrwydd cyfyngedig, ond mae ganddi rai nodweddion unigryw hefyd, yn enwedig ei darpariaethau ar gyfer aelodau a chyfalaf cyfranddaliadau. 

Mae cyfranddaliadau cymunedol yn ffordd ddelfrydol i gymunedau fuddsoddi mewn mentrau sy’n gwasanaethu diben cymunedol. Mae gweddill yr adran hon yn esbonio sut mae cyfranddaliadau cymunedol yn gweithio a pham yr ystyrir mai deddfwriaeth cymdeithasau cydweithredol a budd cymunedol yw’r ffurf gyfreithiol orau ar gyfer cyfranddaliadau cymunedol, y model busnes sy’n sail i gyfranddaliadau cymunedol, a’r mannau cychwyn niferus ar gyfer mentrau cyfranddaliadau cymunedol. 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop