2.1.5 Dewis rhwng mathau o gymdeithasau

Mae’r tri math o gymdeithas yn gwasanaethu tri grŵp gwahanol o fuddiolwyr. Mae cwmnïau cydweithredol er budd aelodau, mae cymdeithasau budd cymunedol er bydd y gymuned, ac mae cymdeithasau budd cymunedol elusennol er budd y cyhoedd. Mae gwahaniaethau pwysig, ac eto cynnil, rhwng budd aelodau, y gymuned a’r cyhoedd. Mae cysyniad budd cyhoeddus yn ganolog i’r gyfraith elusennau, ac yn canolbwyntio’n llwyr ar amcanion elusennol, ond nid yw budd cymunedol yn elusennol o reidrwydd nac yn benodol. Mae budd aelodau mewn cymdeithas gydweithredol yn cael ei ffurfio gan werthoedd ac egwyddorion cydweithredol, sy’n ei wahaniaethu o fudd preifat cyfranddalwyr cwmni.

Mae manteision ac anfanteision yn gysylltiedig â’r tri math o gymdeithas. Caiff cwmnïau cydweithredol ddosbarthu elw i aelodau ar ffurf difidend yn seiliedig ar lefel eu trafodion â’r gymdeithas gydweithredol, sy’n gallu cymell ffyddlondeb aelodau a chryfhau’r model busnes. Gallai cymdeithasau budd cymunedol a chanddynt glo asedau statudol roi mwy o sicrwydd i gyllidwyr cyhoeddus a chyrff sy’n rhoi grantiau, ar yr un pryd â rhoi’r rhyddid i gymdeithasau o’r fath ymwneud ag ystod eang o weithgareddau busnes nad ydynt yn gyfyngedig i amcanion elusennol. Mae cymdeithasau budd cymunedol elusennol yn manteisio ar yr holl fuddion treth sy’n berthnasol i elusennau, ond fe’u cyfyngir i ddibenion elusennol yn unig.  

Gallai cwmnïau cydweithredol apelio mwy at aelodau sy’n cael eu denu gan fuddion cydfuddiannaeth a chymuned; gallai cymdeithasau budd cymunedol apelio mwy at aelodau sy’n rhoi mwy o bwys i fuddiannau’r gymuned ehangach na’u cydfuddiannau nhw. Dim ond cymdeithasau cydweithredol sy’n gallu dosbarthu arian dros ben i aelodau ar ffurf difidend ar drafodion aelodau. Mae’r opsiwn o dalu difidendau’n ffordd ddarbodus o reoli cyllid cymdeithas, ac annog ffyddlondeb aelodau.

Gall y tri math o gymdeithas ddefnyddio clo asedau, sy’n nodwedd ddiffiniol o gyfranddaliadau cymunedol yn ôl polisi’r Uned Cyfranddaliadau Cymunedol. Mae’n rhaid i gymdeithas budd cymunedol elusennol gael clo asedau statudol, a ddiffinnir gan gyfraith elusennau, ond gall cymdeithas budd cymunedol ddewis rhwng clo asedau statudol a chlo asedau gwirfoddol. Gall cymdeithas gydweithredol ddewis mabwysiadu clo asedau gwirfoddol, er nad oes gofyniad i wneud hynny, ac mae’r FCA yn cofrestru cymdeithasau cydweithredol heb y nodwedd hon.

Mae dewis rhwng strwythur cymdeithas gydweithredol neu gymdeithas budd cymunedol yn bwysig oherwydd, er bod modd trosi cymdeithas gydweithredol yn gymdeithas budd cymunedol, nid oes modd trosi cymdeithas budd cymunedol yn gymdeithas gydweithredol, nac i gymdeithas budd cymunedol elusennol roi’r gorau i fod yn elusen.

Yn y Deyrnas Unedig, gall cymdeithas gydweithredol fabwysiadu unrhyw ffurf gyfreithiol, ar yr amod bod ei ddogfen lywodraethu’n ymgorffori’r gwerthoedd a’r egwyddorion cydweithredol a amlinellir yn Natganiad Hunaniaeth, Gwerthoedd ac Egwyddorion yr ICA. Mae llawer o gymdeithasau budd cymunedol yn croesawu gwerthoedd ac egwyddorion cydweithredol ac yn aelodau cydweithredol o Co-operatives UK. 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop