2.4 Darpariaethau clo asedau

Dyfais gyfansoddiadol yw clo asedau sy’n atal dosbarthu asedau gweddilliol i aelodau. Diben clo asedau yw sicrhau nad oes modd i fudd cyhoeddus neu fudd cymunedol unrhyw arian dros ben argadwedig neu werth gweddilliol gael ei feddiannu er budd preifat aelodau. Mae cloeon asedau’n nodwedd ddiffiniol o gyfranddaliadau cymunedol, oherwydd eu bod yn dileu’r cyfle i aelodau wneud enillion cyfalaf tybiannol o ganlyniad i ddiddymu neu waredu cymdeithas, neu ei throsi’n gwmni.  

Mae gan elusennau (gan gynnwys cymdeithasau budd cymunedol elusennol) a Chwmnïau Budd Cymunedol gloeon asedau statudol. Gall cymdeithasau fabwysiadu clo asedau gwirfoddol, ond dim ond cymdeithasau budd cymunedol all fabwysiadu clo asedau statudol.

Cyflwynodd Rheoliadau Cymdeithasau Budd Cymunedol (Cyfyngiad ar Ddefnyddio Asedau) 2006, a’r rheoliadau cyfatebol ar gyfer Gogledd Iwerddon, ddewis i gymdeithasau budd cymunedol fabwysiadu clo asedau statudol a chanddo nodweddion tebyg i’r rhai sydd ar gael i Gwmnïau Budd Cymunedol. Mae’r Rheoliadau’n cyfeirio at gymdeithasau budd cymunedol sy’n mabwysiadu’r cyfyngiad hwn fel ‘cymdeithasau budd cymunedol rhagnodedig’. Gall unrhyw gymdeithas budd cymunedol, heblaw am y rhai hynny sy’n gymdeithasau budd cymunedol elusennol neu’n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, fod yn rhagnodedig.

Mae’r cyfyngiad hwn ar ddefnyddio asedau’n golygu bod rhaid i unrhyw asedau gweddilliol, ar ôl i gyfalaf cyfranddaliadau’r holl aelodau gael ei ad-dalu yn unol â rheolau’r gymdeithas, gael eu trosglwyddo i un neu fwy o’r canlynol: cymdeithas budd cymunedol rhagnodedig arall, cwmni budd cymunedol, elusen, cymdeithas budd cymunedol elusennol, landlord cymdeithasol cofrestredig (yn ddarostyngedig i amodau), neu unrhyw gorff cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon neu dalaith y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Gall y cyfyngiad gael ei gynnwys yn rheolau cymdeithas budd cymunedol newydd, neu gall cymdeithas budd cymunedol bresennol ei fabwysiadu trwy benderfyniad

 arbennig. Mae Atodlen 1 y Rheoliadau’n nodi union eiriad y rheolau y mae’n rhaid eu mabwysiadu. Mae’n rhaid i gymdeithas budd cymunedol fod â’r math hwn o glo asedau statudol, neu fod yn gymdeithas budd cymunedol elusennol, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y Gostyngiad yn y Dreth ar gyfer Buddsoddiad Cymdeithasol (gweler Adran 8.6).

Mae’n rhaid i gymdeithas budd cymunedol elusennol fod â chlo asedau sy’n bodloni gofynion y gyfraith elusennau. Ni ellir defnyddio Rheoliadau 2006 at y diben hwn gan nad ydynt yn cyfyngu’r defnydd o asedau gweddilliol i ddibenion elusennol yn unig.

Mae’r FCA yn mynnu bod gan bob cymdeithas budd cymunedol reolau sy’n atal yr elw neu’r asedau rhag cael eu dosbarthu i aelodau, boed hynny’n glo asedau statudol neu’n glo asedau gwirfoddol. Mae ganddo bwerau ychwanegol o dan is-ddeddfwriaeth i orfodi clo asedau statudol, sy’n cynnwys y pŵer i gyhoeddi hysbysiadau rhybudd a gorfodi, ac i fynnu iawndal gan swyddogion y gymdeithas.  

Mae cymdeithasau budd cymunedol sydd wedi dewis peidio â mabwysiadau’r cyfyngiadau a osodir yn Rheoliadau 2006 yn rhydd i ddiwygio eu rheolau ynglŷn â defnyddio asedau, yn amodol ar gymeradwyaeth yr FCA. Gallai hyblygrwydd y math hwn o glo asedau fod yn fwy atyniadol i gymdeithas budd cymunedol, oherwydd gallai ddiwygio ei rheolau yn y dyfodol a gwneud cais i fod yn gymdeithas budd cymunedol elusennol, sy’n rhywbeth na allai cymdeithas â’r clo asedau rhagnodedig ei wneud.

Mae sefyllfa cymdeithasau cydweithredol yn llai eglur. Nid yw’r FCA yn darparu canllawiau penodol ar gloeon asedau ar gyfer cymdeithasau cydweithredol. Fodd bynnag, mae’n amlygu pwysigrwydd Datganiad yr ICA ar Hunaniaeth Gydweithredol wrth benderfynu p’un a yw cymdeithas yn un gydweithredol go iawn, ac mae’r drydedd egwyddor ynglŷn â chyfranogiad economaidd aelodau’n cyfeirio at y ffaith bod gan gymdeithasau cydweithredol eiddo cyffredin a chronfeydd wrth gefn anwahanadwy, er ei bod yn goleddfu hyn trwy ddefnyddio geiriau megis ‘fel arfer’ ac ‘o bosibl’ (gweler Adran 2.1.2). Mae’r rhan fwyaf o gymdeithasau cydweithredol yn mabwysiadu clo asedau gwirfoddol yn eu rheolau. Mae lle i bennu bod y rheolau hyn yn hollbwysig i’r gymdeithas trwy fynnu trothwy pleidleisio uwch i newid y rheolau hyn. Fodd bynnag, nid oes cyfrwng cyfreithiol i ymsefydlu’r rheolau hyn er mwyn eu hatal rhag cael eu newid mewn unrhyw amgylchiadau.

Mae’r un peth yn berthnasol i gloeon asedau gwirfoddol mewn cymdeithasau budd cymunedol. Yr unig ffordd y gellir ymsefydlu’r rheol clo asedau yw trwy fabwysiadu clo asedau statudol. 

Gall cymdeithas gael ei throsi’n gwmni, yn amodol ar ddarpariaethau Adrannau 112-113 Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, sy’n mynnu bod cymdeithasau sy’n dymuno trosi’n gwmni yn pasio penderfyniad arbennig i’r perwyl hwnnw, a gefnogir gan bleidlais fwyafrifol gan dri chwarter o leiaf y mae hanner yr aelodau o leiaf wedi cymryd rhan  ynddi (gweler Adran 2.6.4.)   

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop