2.1.2 Cymdeithasau cydweithredol go iawn

Nid yw Deddf 2014 yn diffinio nac yn disgrifio beth yw cymdeithas gydweithredol go iawn. Yn absenoldeb diffiniad statudol, mae’r FCA yn darparu canllawiau ynglŷn â sut mae’n penderfynu p’un a yw cymdeithas yn un gydweithredol go iawn. Mae’n defnyddio dau brawf, a amlinellir yn y paragraffau canlynol.

Yn ôl Adran 2(3) Deddf 2014, “nid yw cymdeithas gydweithredol yn cynnwys cymdeithas sy’n cynnal busnes, neu’n bwriadu cynnal busnes, gyda’r nod o wneud elw yn bennaf i dalu llog, difidendau neu daliadau bonws ar arian sydd wedi’i fuddsoddi yn y gymdeithas neu unrhyw unigolyn arall, ei adneuo gyda hi/gydag ef, neu ei fenthyca iddi/iddo”. Mae canllawiau cofrestru’r FCA yn egluro y bydd yn defnyddio’r adran hon o’r Ddeddf wrth benderfynu p’un a all cymdeithas gael ei chofrestru’n gymdeithas gydweithredol, a pharhau i gael ei chofrestru felly. Bydd yr FCA yn gwneud hyn trwy archwilio’r rheolau arfaethedig, newidiadau i reolau, ffurflenni cais, cyfrifon blynyddol a gwybodaeth arall gyhoeddedig, a allai gynnwys dogfen gynnig cyfranddaliadau cymunedol, yn ôl pob tebyg. Nid yw’r ymagwedd hon at ddiffinio cymdeithas gydweithredol yn golygu na all cymdeithas gydweithredol ddosbarthu ei harian dros ben i aelodau; ymdrinnir â’r mater hwn yn fanylach yn Adran 6 y Llawlyfr.

Mae’r ail brawf a ddefnyddir gan yr FCA wedi’i seilio ar Ddatganiad Hunaniaeth, Gwerthoedd ac Egwyddorion Cydweithredol y Gynghrair Gydweithredol Ryngwladol, sy’n diffinio cymdeithas gydweithredol fel “cymdeithas ymreolaethol o unigolion sydd wedi uno’n wirfoddol i fodloni eu hanghenion a’u dyheadau economaidd, cymdeithasol, a diwylliannol cyffredin trwy fenter a berchenogir ar y cyd ac a reolir yn ddemocrataidd.” 

Mae’r FCA yn defnyddio’r diffiniad hwn i bennu p’un a yw cymdeithas yn un gydweithredol go iawn. Mae hefyd yn defnyddio’r gwerthoedd a’r egwyddorion a gyflwynir isod i ddilysu a chadarnhau p’un a yw rheolau a threfniadau llywodraethu cymdeithas yn gyson â rhai cymdeithas gydweithredol.

Gwerthoedd Mae cwmnïau cydweithredol wedi’u seilio ar werthoedd hunangymorth, hunangyfrifoldeb, democratiaeth, cydraddoldeb, tegwch, ac undod. Yn nhraddodiad eu sylfaenwyr, mae aelodau cwmnïau cydweithredol yn credu mewn gwerthoedd moesegol gonestrwydd, bod yn agored, cyfrifoldeb cymdeithasol, a gofalu am bobl eraill.

Egwyddorion Canllawiau yw’r egwyddorion cydweithredol y mae cwmnïau cydweithredol yn eu dilyn wrth roi eu gwerthoedd ar waith.

  1. Aelodaeth Wirfoddol ac Agored: Sefydliadau gwirfoddol yw cwmnïau cydweithredol, sy’n agored i bob unigolyn sy’n gallu defnyddio eu gwasanaethau ac sy’n fodlon derbyn cyfrifoldebau aelodaeth, heb wahaniaethu ar sail rhyw, statws cymdeithasol, hil, gwleidyddiaeth, na chrefydd.
  2. Rheolaeth Ddemocrataidd gan Aelodau: Sefydliadau democrataidd yw cwmnïau cydweithredol a reolir gan eu haelodau, sy’n cyfrannu’n weithredol at lunio eu polisïau a gwneud penderfyniadau. Mae dynion a menywod sy’n gwasanaethu fel cynrychiolwyr etholedig yn atebol i’r aelodau. Mewn cwmnïau cydweithredol sylfaenol, mae gan aelodau hawliau pleidleisio cyfardal (un aelod, un bleidlais), ac mae cwmnïau cydweithredol ar lefelau eraill yn cael eu trefnu mewn modd democrataidd hefyd.
  3. Cyfranogiad Economaidd Aelodau: Mae aelodau’n cyfrannu’n deg at gyfalaf eu cwmni cydweithredol, ac yn ei reoli’n ddemocrataidd. Bydd rhan o’r cyfalaf hwnnw o leiaf yn eiddo cyffredin i’r cwmni cydweithredol, gan amlaf. Bydd aelodau’n cael digollediad cyfyngedig fel arfer, os o gwbl, ar gyfalaf a danysgrifiwyd fel amod aelodaeth. Mae aelodau’n dyrannu arian dros ben at un o’r dibenion canlynol, neu bob un ohonynt: datblygu eu cymdeithas gydweithredol, trwy sefydlu cronfeydd wrth gefn o bosibl, y byddai rhan ohonynt o leiaf yn anwahanadwy; rhoi budd i aelodau yn gymesur â’u trafodion â’r gymdeithas gydweithredol; a chefnogi gweithgareddau eraill a gymeradwyir gan yr aelodau.
  4. Ymreolaeth ac Annibyniaeth: Sefydliadau hunangymorth ymreolaethol yw cwmnïau cydweithredol a reolir gan eu haelodau. Os byddant yn llunio cytundebau â sefydliadau eraill, gan gynnwys llywodraethau, neu’n cael cyfalaf o ffynonellau allanol, gwnânt hynny ar delerau sy’n sicrhau rheolaeth ddemocrataidd gan eu haelodau ac yn cynnal eu hymreolaeth gydweithredol.
  5. Addysg, Hyfforddiant a Gwybodaeth: Mae cwmnïau cydweithredol yn darparu addysg a hyfforddiant i’w haelodau, cynrychiolwyr etholedig, rheolwyr, a chyflogeion fel y gallant gyfrannu’n effeithiol at ddatblygu eu cwmnïau cydweithredol. Maen nhw’n rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd – yn enwedig pobl ifanc ac arweinwyr barn – ynglŷn â natur a buddion cydweithredu.
  6. Cydweithredu ymhlith Cwmnïau Cydweithredol: Mae cwmnïau cydweithredol yn gwasanaethu eu haelodau’n fwyaf effeithiol ac yn cryfhau’r mudiad cwmnïau cydweithredol trwy gydweithio trwy strwythurau lleol, cenedlaethol, rhanbarthol, a rhyngwladol.
  7. Gofalu am y Gymuned: Mae cwmnïau cydweithredol yn gweithio er mwyn sicrhau datblygiad cynaliadwy eu cymunedau trwy bolisïau a gymeradwywyd gan eu haelodau.”

Mae’r FCA yn disgwyl gweld egwyddorion 1 i 4 yn cael eu mynegi yn rheolau a threfniadau llywodraethu cymdeithas, tra bod egwyddorion 5 i 7 yn fwy tebygol o gael eu mynegi ym mholisïau a gweithredoedd cymdeithas. Mae canllawiau cofrestru’r FCA yn rhoi pwyslais penodol ar nodweddion cysylltiadol cymdeithasau cydweithredol, gan ganolbwyntio ar y berthynas rhwng aelodau. Diben cymdeithas gydweithredol yw gwasanaethu buddiannau aelodau. Gall ddosbarthu rhan o’i harian dros ben neu elw i aelodau ar ffurf difidend ar eu trafodion â’r gymdeithas gydweithredol. Mae’r FCA yn cydnabod natur amrywiol mentrau cydweithredol, a’r nifer o wahanol drefniadau rhwng aelodau ar gyfer gwasanaethu eu cydfuddiannau, yn seiliedig ar egwyddorion cydweithredol. Mae cymdeithasau cydweithredol yn rhydd i benderfynu pwy all fod yn aelod, yn seiliedig ar yr egwyddor y dylai’r fenter fod ar agor i bawb sy’n gallu defnyddio ei gwasanaethau. Mae cyfranogiad aelodau nad ydynt yn ddefnyddwyr yn destun canllawiau penodol gan yr FCA.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae cymdeithasau’n cael eu cofrestru gan Adran yr Economi o dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus (Gogledd Iwerddon) 1969, nad yw’n gwahaniaethu rhwng gwahanol ffurfiau.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop