2.1.4 Cymdeithasau budd cymunedol elusennol

Mae cymdeithas budd cymunedol elusennol yn gymdeithas budd cymunedol a chanddi ddibenion elusennol yn unig. Mae cydnabod a rheoleiddio elusennau yn fater datganoledig.

Yng Nghymru a Lloegr, mae Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr yn darparu arweiniad ar yr hyn sy’n gyfystyr â diben elusennol, yn seiliedig ar Ddeddf Elusennau 2011, sy’n amlinellu 12 prif ddiben elusennol yn ogystal ag unrhyw ddibenion eraill y gellir eu cydnabod yn elusennol o dan y gyfraith bresennol. (Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.gov.uk/running-charity/setting-up)

Yn yr Alban, mae Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban yn darparu arweiniad ar yr hyn sy’n gyfystyr â diben elusennol, yn seiliedig ar Ddeddf Elusennau a Buddsoddiad Ymddiriedolwyr (yr Alban) 2005. (Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: http://www.oscr.org.uk/charities/becoming-a-charity )

Mae’n bosibl y bydd safbwyntiau Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon ynglŷn â chymdeithasau budd cymunedol elusennol yn wahanol i’r rhai a fynegir yn y Llawlyfr hwn.

Mae’n rhaid i gymdeithas budd cymunedol elusennol ymgymryd â gweithgareddau sy’n hybu ei hamcanion elusennol yn unig. Golyga hyn y gallai fod rhaid i gymdeithas budd cymunedol elusennol sy’n bwriadu ymgymryd â gweithgareddau masnachu nad ydynt yn ymwneud â’i phrif ddiben nac yn ategol i’r diben hwnnw, sefydlu is-gwmni masnachu i gynnal y fasnach honno.

Mae’n rhaid i gymdeithas budd cymunedol elusennol fod â chlo asedau. Mae’n rhaid i hwn fod ar ffurf rheol sy’n datgan os caiff y gymdeithas ei diddymu, bod rhaid i unrhyw asedau gweddilliol gael eu trosglwyddo i elusen arall sydd â’r un dibenion elusennol neu rai tebyg. Ni ellir defnyddio’r rheolau clo asedau a ragnodir gan Reoliadau Cymdeithasau Budd Cymunedol (Cyfyngiad ar Ddefnyddio Asedau) 2006, a’r rheoliadau cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon, gan nad ydynt yn rhoi hawliau unigryw i elusennau. (Ymdrinnir â’r mater hwn yn fanylach yn Adran 2.4.)

Yng Nghymru a Lloegr, ni all cymdeithas budd cymunedol elusennol gofrestru fel elusen gyda’r Comisiwn Elusennau. Yn lle hynny, rhaid iddi wneud cais i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i gael ei chydnabod fel elusen eithriedig at ddibenion treth. Cyflwynodd Deddf Elusennau 2006 newidiadau i’r ffordd y mae elusennau eithriedig yn cael eu rheoleiddio, gan fynnu bod gan bob elusen eithriedig brif reoleiddiwr. Fodd bynnag, nid oes prif reoleiddiwr wedi’i benodi eto ar gyfer cymdeithasau budd cymunedol elusennol nad ydynt yn landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. (I gael rhagor o wybodaeth, gweler: Y Comisiwn Elusennau, CC23 Elusennau eithriedig.)

Caiff cymdeithas budd cymunedol elusennol gynnwys y geiriau ‘elusen’ neu ‘elusennol’ yn ei henw os yw wedi cael caniatâd o flaen llaw gan yr awdurdodau perthnasol (gweler Adran 3.2.1). Bydd y Comisiwn Elusennau ond yn caniatáu i endidau y mae’n ystyried eu bod yn elusennol ddefnyddio’r geiriau hyn.

Mae gan elusennau eithriedig hawl i’r un buddion treth ag elusennau cofrestredig. Mae’r rhain yn cynnwys gostyngiad mewn treth incwm, treth gorfforaeth a threth enillion cyfalaf, eithriad o dreth etifeddiant a gostyngiad mewn ardrethi busnes neu annomestig.

Yn yr Alban, nid oes y fath derm ag ‘elusen eithriedig’, felly er mwyn bod yn gymdeithas budd cymunedol elusennol, rhaid i’r gymdeithas wneud cais i Reoleiddiwr Elusennau yr Alban i fod yn elusen gofrestredig hefyd. I gael buddion treth, bydd rhaid i’r sefydliad wneud cais i HMRC hefyd. Mae’r un peth yn wir yng Ngogledd Iwerddon, lle mae’n rhaid i gymdeithasau budd cymunedol elusennol ddod yn elusennau cofrestredig gyda Chomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon, a gwneud cais ar wahân i HMRC am fuddion treth.

Mae’r Comisiwn Elusennau a Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban wedi cydnabod y caiff cymdeithasau budd cymunedol elusennol gyhoeddi cyfranddaliadau cymunedol a thalu llog i aelodau ar gyfalaf cyfranddaliadau, yn ddarostyngedig i nifer o amodau. (Gweler Adran 6.5 am fwy o fanylion.)

Wrth gofrestru cymdeithas budd cymunedol elusennol newydd, rhaid darparu gwybodaeth am ymddiriedolwyr yr elusen. Mae hyn yn cynnwys eu henw llawn, manylion cyswllt, galwedigaeth, dyddiad geni a llofnod. Bydd yr FCA yn gwirio nad yw’r unigolion a enwir wedi’u hanghymhwyso rhag gweithredu fel ymddiriedolwyr elusen. Fodd bynnag, nid yw’r FCA yn rhoi statws elusen eithriedig; ymdrinnir â’r mater hwn trwy gais ar wahân i HMRC.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop