2.2.3 Cyfranddaliadau trosglwyddadwy

Mae cyfranddaliadau trosglwyddadwy yn gyfranddaliadau y gellir eu masnachu rhwng prynwyr a gwerthwyr am bris y cytunir arno ar y cyd. Mae unrhyw fath o gymdeithas yn rhydd i gyhoeddi cyfranddaliadau trosglwyddadwy, ar yr amod bod ei rheolau’n darparu ar gyfer hyn. Ni ellir codi cyfranddaliadau trosglwyddadwy o gymdeithas, oni bai bod y rheolau’n datgan fel arall. Fel y cyfryw, mae cyfalaf cyfranddaliadau trosglwyddadwy’n rhan o gyfalaf parhaol y gymdeithas, sy’n ei rhyddhau o unrhyw gyfrifoldeb i ddarparu ar gyfer hylifedd. Yn lle hynny, y cyfranddaliwr sy’n gyfrifol am ddod o hyd i brynwr os yw eisiau sylweddu gwerth ei gyfranddaliadau. Ers 2012, ni fu terfyn uchaf ar faint o gyfalaf cyfranddaliadau trosglwyddadwy y gall unigolyn ei ddal mewn cymdeithas.

Mae canllawiau cofrestru’r FCA yn mynnu bod gan unrhyw gymdeithas sy’n bwriadu cyhoeddi cyfranddaliadau trosglwyddadwy reolau sy’n darparu ar gyfer y math hwn o gyfalaf cyfranddaliadau, gan gynnwys ei ffurf trosglwyddo, cofrestru’r cyfryw gyfranddaliadau, a’r gofyniad bod rhaid i’r bwrdd gydsynio ag unrhyw drosglwyddiad arfaethedig o gyfalaf cyfranddaliadau. Mae’r FCA hefyd yn dweud ei fod o’r farn y byddai unrhyw drefniant marchnad sy’n caniatáu i gyfranddalwyr trosglwyddadwy wneud enillion cyfalaf yn anghyson â chofrestru fel arfer.

Y brif broblem mewn perthynas â chyfranddaliadau trosglwyddadwy yw diffyg cymhelliad i brynu’r cyfryw gyfranddaliadau ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi gan gymdeithas. Mae prynu cyfranddaliadau pan gânt eu cyhoeddi gyntaf, mewn cymdeithas y mae angen iddi gael y cyfalaf i gychwyn, yn rhoi cymhelliad cymdeithasol amlwg i’r buddsoddwr. Ond bydd prynu’r un cyfranddaliadau gan gyfranddaliwr presennol yn helpu’r cyfranddaliwr hwnnw i gael ei arian yn ôl yn unig; nid yw o fudd i’r gymdeithas; nid oes cymhelliad cymdeithasol. Wrth gwrs, fe allai fod yn bosibl i gymdeithas greu cymhelliad ariannol trwy gynnig cyfraddau llog uchel ar gyfranddaliadau trosglwyddadwy, ond gallai hyn fod yn groes i ddiben y gymdeithas, sy’n gymdeithasol yn bennaf yn hytrach nag ariannol.

Problem arall sy’n ymwneud â chyfranddaliadau trosglwyddadwy yw na fyddant wedi’u heithrio o reoliadau hyrwyddo ariannol os cânt eu cyhoeddi gan gymdeithas gydweithredol, sy’n golygu y bydd rhaid i gyfathrebiadau’r math hwn o gymdeithas gael eu harchwilio gan gynghorwr a awdurdodwyd gan yr FCA os bydd yn penderfynu cyhoeddi cyfranddaliadau trosglwyddadwy. Mae’n bosibl y bydd angen iddi gydymffurfio â’r rheoliadau prosbectws hefyd os bydd faint o gyfalaf cyfranddaliadau a gynigir yn uwch na’r lleiafswm. Yr unig eithriad i hyn yw cymdeithas budd cymunedol, sydd wedi’i heithrio o’r rheoliadau prosbectws wrth gyhoeddi cyfalaf cyfranddaliadau trosglwyddadwy ar yr amod bod yr arian a geir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ei dibenion busnes. Fodd bynnag, gallai cymdeithas budd cymunedol sy’n cynnig cyfalaf cyfranddaliadau trosglwyddadwy fod yn gwneud cynnig hyrwyddo ariannol uniongyrchol, sy’n ddarostyngedig i Orchymyn Hyrwyddo Ariannol 2005 a rheol 4.7 Llawlyfr Ymddygiad Busnes yr FCA. Mae’n rhaid i gyfathrebiadau cymdeithas o’r fath gael eu goruchwylio gan unigolyn a awdurdodwyd gan yr FCA (gweler Adran 7.3.3). Am y rhesymau hyn, mae cyfalaf cyfranddaliadau trosglwyddadwy y tu allan i gylch gorchwyl yr Uned Cyfranddaliadau Cymunedol.

Yn ddamcaniaethol, mae’n bosibl cyhoeddi cyfranddaliadau sy’n drosglwyddadwy ac y gellir eu codi, ond tybir y byddai cyfalaf o’r fath yn ddarostyngedig i’r terfyn £100,000 ar ddal cyfranddaliadau unigol, ac ni fyddai ychwaith wedi’i eithrio o reoliadau hyrwyddo ariannol. Mae’r math hwn o gyfalaf cyfranddaliadau y tu allan i gylch gorchwyl yr Uned Cyfranddaliadau Cymunedol hefyd. 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop