5.1 Cyflwyniad

Mae hyrwyddo cyfalaf cyfranddaliadau anhrosglwyddadwy y gellir ei godi mewn cymdeithas wedi’i eithrio o reoleiddio (gweler Adran 7), ond nid yw hyn yn rhyddhau cymdeithas o’i chyfrifoldebau i ddilyn arfer gorau wrth gynnal ei gweithgareddau hyrwyddol. Mae nifer o ystyriaethau i’w cadw mewn cof wrth hyrwyddo cyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei godi.

Mae pobl yn buddsoddi mewn cymdeithas yn bennaf am resymau cydfuddiannol, cymunedol, neu elusennol, yn hytrach nag i gynhyrchu elw ariannol preifat, felly mae’n bwysig bod y buddion hyn yn amlwg yn yr holl ddeunyddiau hyrwyddol ac yn cael blaenoriaeth dros unrhyw fuddion ariannol a gynigir i fuddsoddwyr. Ymdrinnir â’r mater hwn yn fanylach yn Adran 6. Mae cynigion cyfranddaliadau cymunedol wedi’u bwriadu ar gyfer pobl nad oes ganddynt lawer o wybodaeth am fuddsoddi ecwiti na’r risgiau sy’n gysylltiedig â buddsoddiad o’r fath, neu ddim gwybodaeth amdanynt. Mae’r rhan fwyaf o ddarpar fuddsoddwyr yn annhebygol o ddeall esboniadau ariannol neu gyfreithiol cymhleth, neu allu cael cyngor proffesiynol arbenigol yn rhwydd. Golyga hyn fod rhaid i bob hyrwyddiad fod yn syml ac yn dryloyw, ac ni ddylai fod yn rhy hir.

Dylai dogfennau cynnig fod yn ganolbwynt unrhyw ymgyrch hyrwyddol. Mae Adran 4 yn rhoi arweiniad ar gynnwys dogfennau cynnig a ffurflenni cais. Dylai’r ymgyrch hyrwyddo a’r prosesau ymgeisio cysylltiedig gael eu cynllunio i annog darpar fuddsoddwyr i ddarllen y ddogfen gynnig cyn buddsoddi. Mae’r holl weithgareddau a deunyddiau hyrwyddol yn ffurfio rhan o’r contract gyda’r buddsoddwr a’r aelod, felly mae’n bwysig bod y gweithgareddau a’r deunyddiau hyn yn cyflwyno gwybodaeth gyson am y cynnig.

Mae llwyddiant cynnig cyfranddaliadau cymunedol yn dibynnu’n drwm ar ansawdd yr ymgyrch hyrwyddo. Dylai’r ymgyrch ymgysylltu â’r gymuned darged a’u cynnwys ym materion y gymdeithas, y tu hwnt i’r weithred fuddsoddi. Heblaw am weld pobl fel darpar fuddsoddwyr, dylent hefyd gael eu hystyried yn ddarpar gwsmeriaid, cyflenwyr, cyflogeion, gwirfoddolwyr, ac, yn bwysicaf oll, aelodau gweithredol a fydd yn cyfrannu at y busnes a sicrhau ei lwyddiant.

Mae defnyddio cyfryngau a chyfathrebu electronig yn ganolog i’r rhan fwyaf o ymgyrchoedd hyrwyddo. Mae’n rhaid i unrhyw gymdeithas sy’n bwriadu defnyddio’r math hwn o gyfathrebu ddeall ei rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Diogelu Data a’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw’r gymdeithas yn bwriadu defnyddio mwy nag un math o gyfrwng electronig i hyrwyddo ei chynnig cyfranddaliadau cymunedol.

Mae angen i gymdeithas sy’n gwneud cynnig cyfranddaliadau gynllunio sut y bydd y cyfranddaliadau’n cael eu gwerthu, gan gynnwys y broses ymgeisio a’r dull talu. Mae dulliau ar-lein, gan gynnwys cyllido torfol, yn dod yn gynyddol gyffredin, ac maen nhw’n ddarostyngedig i fathau penodol o reoleiddio. Mae angen i faterion eraill, fel prynu cyfranddaliadau gan bobl nad ydynt yn byw yn y Deyrnas Unedig, cyfranddaliadau fel rhoddion, a defnyddio cymhellion, gael eu hystyried yn ofalus cyn lansio’r cynnig cyfranddaliadau.  

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop