7.1 Cyflwyniad

Nid yw cynnig cyfranddaliadau cymunedol, neu’n fwy penodol, cyfranddaliadau anhrosglwyddadwy y gellir eu codi mewn cymdeithas, yn weithgaredd a reoleiddir ac nid yw’n dod o fewn cwmpas Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000. Mae’r Uned Cyfranddaliadau Cymunedol yn datblygu a hyrwyddo safonau arfer da ar gyfer cynigion cyfranddaliadau cymunedol yn rhan o’i hymrwymiad i hunanreoleiddio gwirfoddol. Mae’r adran hon o’r Llawlyfr yn amlinellu’r cyd-destun rheoleiddiol ar gyfer datblygu’r arweiniad a’r rheoleiddio gwirfoddol hyn.

Mae Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 yn darparu’r fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol sy’n llywodraethu’r diwydiant gwasanaethau ariannol yn y Deyrnas Unedig. Amcanion yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yw diogelu defnyddwyr, gwella uniondeb y sector gwasanaethau ariannol, a hyrwyddo cystadleuaeth effeithiol. Mae diogelu defnyddwyr yn hollbwysig er mwyn i’r cyhoedd deimlo’n hyderus ynglŷn â chyfrifon cynilo ac ernesau. Mae angen i gynhyrchion buddsoddi, lle mae’r risgiau a’r gwobrwyon posibl yn fwy, gydymffurfio â safonau cyffredin er mwyn sicrhau cystadleuaeth effeithiol ac i helpu’r cyhoedd i ddeall beth maen nhw’n ei brynu.

Heb reoleiddio da, mae perygl y gallai’r cyhoedd golli hyder mewn gwasanaethau bancio ac ariannol, a fyddai’n cael effaith fawr ar yr economi. Yn ôl yr FCA, mae rheoleiddio ariannol da wedi’i seilio ar wyth egwyddor allweddol: effeithlonrwydd a darbodaeth; cymesuroldeb; twf cynaliadwy; cyfrifoldeb defnyddwyr; cyfrifoldeb uwch reolwyr; cydnabod y gwahaniaethau yn y busnesau a gynhelir gan wahanol unigolion a reoleiddir; bod yn agored a datgelu; a thryloywder.

Nid yw cynigion cyfranddaliadau cymunedol yn cael eu rheoleiddio gan yr FCA. Gallai’r diffyg rheoleiddio ffurfiol hwn danseilio hyder y cyhoedd mewn cyfranddaliadau cymunedol ac arwain at bryderon y gallai rhai cymdeithasau ymddwyn mewn ffordd anghyfrifol. Mae tri pheth yn rhwystro hyn rhag digwydd. Mae gan yr FCA, sy’n cofrestru cymdeithasau cydfuddiannol, bwerau i ddatgofrestru cymdeithas os yw’n credu nad yw’n cydymffurfio â deddfwriaeth cymdeithasau. Crynhoir y pwerau hyn yn Adran 7.5. Mae unrhyw gynnig neu gymhelliad i fuddsoddi mewn cyfranddaliadau cymunedol yn ddarostyngedig i gyfraith contractau. Esbonnir hyn yn Adran 7.4. Ac mae’r Uned Cyfranddaliadau Cymunedol wedi ymrwymo i hyrwyddo hunanreoleiddio gwirfoddol ymhlith cymdeithasau sy’n gwneud cynigion cyfranddaliadau cymunedol. Mae wedi cyflwyno Marc Safon Cyfranddaliadau Cymunedol ar gyfer cynigion cyfranddaliadau cymunedol ac yn trwyddedu ymarferwyr sy’n gallu dyfarnu’r Marc hwn i gynigion sy’n cyrraedd y safonau. Amlinellir y darpariaethau hyn yn Adran 7.6. Gyda’i gilydd, dylai’r mesurau hyn ddarparu’r amodau ar gyfer hunanreoleiddio gwirfoddol, ac i arfer da fod drechaf.

Mae Adran 7.3 yn esbonio sut mae cyfranddaliadau cymunedol yn berthnasol i Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 a’r rheolau sy’n rheoleiddio hyrwyddiadau ariannol yn y Deyrnas Unedig. Mae hyrwyddiadau ariannol yn gyfathrebiadau sy’n annog pobl i ymwneud â gweithgareddau buddsoddi. Ni fwriedir iddynt roi arweiniad cynhwysfawr i’r ddeddfwriaeth, a chynghorir ymarferwyr i geisio barn gyfreithiol arbenigol os ydynt yn llunio hyrwyddiadau ariannol a allai brofi ffiniau’r canllawiau hyn.

Mae rheoleiddio gwirfoddol yn gosod cyfrifoldeb ar gymdeithasau i fod yn agored a thryloyw ynglŷn â’u gweithgareddau. Mae Adran 7.2 yn amlinellu’r dyletswyddau cyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth am aelodaeth a pherfformiad ariannol cymdeithas, ac yn rhoi arweiniad ar sut y gellir ymestyn egwyddorion bod yn agored ac yn dryloyw i weithgareddau codi arian cymdeithas.        

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop