8.1 Cyflwyniad

Mae’r adran hon yn ystyried triniaeth dreth cymdeithasau a’u haelodau, gan ganolbwyntio ar feysydd lle mae hyn yn sylweddol wahanol i driniaeth dreth cwmnïau a’u cyfranddalwyr, a lle y gallai trethiant fod yn ffactor pwysig yn y cynnig cyfranddaliadau cymunedol. Nid yw’r adran hon yn mynd i’r afael â rhai mathau o dreth, fel Treth ar Werth (TAW), gan fod cwmnïau a chymdeithasau’n cael eu trin yr un fath i raddau helaeth. Rhoddir sylw i fathau eraill o dreth, yn enwedig treth incwm, dim ond mewn meysydd lle mae triniaeth dreth cymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol a’u haelodau yn sylweddol wahanol i driniaeth dreth cwmnïau a’u cyfranddalwyr. Mae’r adran hon hefyd yn amlinellu pedwar math o ostyngiad yn y dreth incwm sy’n berthnasol i gyfranddaliadau cymunedol: y Cynllun Buddsoddi mewn Mentrau (EIS); y Cynllun Buddsoddi Cychwynnol mewn Mentrau (SEIS); Gostyngiad yn y Dreth ar gyfer Buddsoddiad Cymdeithasol (SITR); a Gostyngiad yn y Dreth ar gyfer Buddsoddiad Cymunedol (CITR). 

Nid yw’r adran hon yn ganllaw cynhwysfawr i driniaeth dreth cymdeithasau a’u haelodau. Ei nod yw tynnu sylw ymarferwyr cyfranddaliadau cymunedol at faterion perthnasol, a’u cyfeirio at y canllawiau manylach sydd ar gael yn Llawlyfrau a Thaflenni Cymorth HMRC (gweler www.hmrc.gov.uk). Mae HMRC hefyd yn darparu llinellau ffôn penodol ar gyfer cynghorwyr, ac, mewn achosion mwy cymhleth, bydd yn ymateb i geisiadau am Gliriad Busnes Anstatudol, sef cadarnhad ysgrifenedig o safbwynt HMRC ynglŷn â chymhwyso cyfraith treth i drafodyn neu ddigwyddiad penodol. 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop