1.2.7 Cwmnïau budd cymunedol

Mae cwmnïau budd cymunedol yn gallu gwerthu cyfranddaliadau i fuddsoddwyr a chael cyfalaf gan y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu. Ond mae’n rhaid iddynt wneud hyn mewn ffordd sy’n gwbl wahanol i gymdeithasau.

Mae cwmnïau budd cymunedol yn fath o gwmni rheoledig. Fel y cyfryw, maen nhw’n gwbl ddarostyngedig i gyfraith cwmnïau, yn ogystal â darpariaethau penodol rheoliadau cwmnïau budd cymunedol. Darparodd y ddeddfwriaeth cwmnïau budd cymunedol, a gyflwynwyd yn 2005, fframwaith rheoleiddiol newydd sy’n llywodraethu’r tri phrif fath o gwmni: cwmni preifat cyfyngedig trwy gyfranddaliadau, cwmni cyfyngedig trwy warant, a chwmni cyfyngedig cyhoeddus (ccc). 

Mae Adran 755 Deddf Cwmnïau 2006 yn gwahardd cwmnïau preifat rhag gwneud cynigion cyfranddaliadau cyhoeddus. Mae hyn yn golygu bod rhaid i unrhyw gwmni sy’n bwriadu cynnig ei warannau yn gyhoeddus newid i fod yn ccc cyn gwneud y cynnig cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys cwmnïau budd cymunedol, y mae’n rhaid iddynt ddod yn gwmnïau budd cymunedol ccc. Mae’n ofynnol i gwmnïau cyfyngedig cyhoeddus feddu ar £50,000 o leiaf mewn cyfalaf cyfranddaliadau llawndaledig ac mae’n rhaid iddynt fodloni safonau archwilio ac adrodd cyhoeddus llymach. Mae Gorchymyn Hyrwyddo Ariannol 2005 (gweler Adran 7.3.3) yn mynnu bod hyrwyddiadau ariannol yn cael eu goruchwylio gan unigolyn sydd wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, oni bai bod yr hyrwyddo wedi’i eithrio o’r darpariaethau hyn. Mae’r Gorchymyn yn nodi amrywiaeth o eithriadau, gan gynnwys eithriad ar gyfer cymdeithasau, ond nid ar gyfer cwmnïau budd cymunedol. Mae eithriadau eraill, a allai fod yn berthnasol i gwmnïau budd cymunedol, yn cynnwys unigolion â gwerth net uchel, buddsoddwyr soffistigedig, a ‘grŵp budd cyffredin’ cwmni. Fodd bynnag, yn gyffredinol, dylid ceisio cyngor proffesiynol i bennu sut gallai’r eithriadau hyn fod yn berthnasol i amgylchiadau cynnig cyfranddaliadau gan gwmni budd cymunedol.    

Mae’n bosibl na fydd cwmnïau budd cymunedol yn ffurf syml ar gyfer cyfranddaliadau cymunedol am resymau ariannol a llywodraethu hefyd. Yn wahanol i gymdeithasau, ni all cwmnïau gyhoeddi cyfranddaliadau y gellir eu codi; mae’n rhaid i’w cyfranddaliadau fod yn drosglwyddadwy neu’n adbrynadwy, sy’n gofyn am ymagwedd wahanol at hylifedd cyfalaf. Ar y llaw arall, ni chyfyngir ar faint o gyfalaf cyfranddaliadau y caiff unigolyn ei ddal mewn cwmni budd cymunedol. Gallai’r terfyn difidendau ar gwmnïau budd cymunedol ganiatáu i fuddsoddwyr gael adenillion uwch ar gyfalaf nag y gellir eu cynnig ar gyfranddaliadau mewn cymdeithasau, gan ei fod wedi’i seilio ar gyfran o’r elw (35% ar hyn o bryd) yn hytrach na chyfradd difidendau fesul cyfranddaliad.

Er nad yw’r ffurf cwmni budd cymunedol yn rhwydd iawn ar gyfer buddsoddi cymunedol o bosibl, mae’n ffurf addas ar gyfer buddsoddi ecwiti gan fuddsoddwyr cymdeithasol o hyd. Gallai fod yn arbennig o addas i fuddsoddwyr cymdeithasol sy’n dymuno rheoli eu buddsoddiad, oherwydd bod cwmnïau budd cymunedol yn gweithio yn unol â’r egwyddor un cyfranddaliad, un bleidlais. Gallai lleoli ecwiti cwmni budd cymunedol yn breifat gyda buddsoddwyr cymdeithasol, yn ei dro, gael ei hwyluso gan gyfryngwyr ariannol buddsoddi cymdeithasol sy’n deall cyfyngiadau’r Gorchmynion Hyrwyddo Ariannol ac sydd â mynediad at fuddsoddwyr soffistigedig ac unigolion â gwerth net uchel. O ran cwmnïau budd cymunedol sy’n ceisio denu buddsoddiad, ac mae nifer sydd wedi gwneud hyn yn llwyddiannus, argymhellir eu bod yn ceisio cyngor neu rwydweithiau arbenigol i gael arweiniad ychwanegol.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop