5.8 Ceisiadau gan bobl nad ydynt yn byw yn y Deyrnas Unedig

Yn sgil dyfodiad y rhyngrwyd a systemau talu rhyngwladol fel PayPal, mae’n bosibl i unrhyw gymdeithas sy’n hyrwyddo cynnig cyfranddaliadau trwy ei gwefan ddenu ceisiadau gan bobl nad ydynt yn byw yn y Deyrnas Unedig. 

Mae ymgysylltu â’r gymuned yn ganolog i gynigion cyfranddaliadau cymunedol. Mae llawer o gymdeithasau’n dibynnu ar gyfranogiad gweithredol aelodau, nid yn unig fel buddsoddwyr ond hefyd fel cwsmeriaid, gwirfoddolwyr, cefnogwyr, cyflogeion a chyflenwyr. Gallai fod yn anoddach o lawer i gynnal ymgysylltiad gweithredol aelodau sy’n byw y tu allan i’r gymuned ddaearyddol a wasanaethir gan y gymdeithas. Ar y llaw arall, gallai pobl sy’n byw yn unrhyw le yn y byd fod â rhesymau personol cryf dros uniaethu â’r gymuned a wasanaethir gan y gymdeithas.

Oni bai bod rheolau cymdeithas yn datgan fel arall, nid yw’r gyfraith yn cyfyngu ar ble mae aelodau cymdeithas yn byw; caniateir ceisiadau gan bobl nad ydynt yn byw yn y Deyrnas Unedig. Ond fe allai fod deddfau mewn gwledydd eraill sy’n cyfyngu neu’n atal unigolion rhag buddsoddi’n uniongyrchol mewn endidau corfforaethol sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig.

Mae gwerthu cyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei godi wedi’i eithrio o reoliadau gwyngalchu arian y Deyrnas Unedig (gweler Adran 7.3.6). Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd cymdeithas eisiau ei bodloni ei hun nad yw’n derbyn buddsoddiadau sy’n deillio o weithgareddau troseddol neu derfysgol trwy wirio pwy yw ymgeiswyr nad ydynt yn byw yn y Deyrnas Unedig. Mae hunaniaeth ymgeiswyr sy’n byw yn y Deyrnas Unedig fel arfer yn cael ei chadarnhau gan y banc neu’r darparwr cerdyn credyd neu ddebyd. 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop