1.5 Buddsoddiad sefydliadol

Gall cyfranddaliadau cymunedol ddarparu’r sylfaen ar gyfer datblygu strwythur cyfalaf cadarn mewn cymdeithas. Efallai y bydd rhai cymdeithasau’n gallu cael yr holl gyfalaf y mae arnynt ei angen gan aelodau unigol. Ond, yn amlach na pheidio, mae cyfranddaliadau cymunedol yn gweithredu fel sbardun i gael buddsoddiad sefydliadol. Gallai’r buddsoddiad hwn fod ar ffurf grantiau, benthyciadau neu ecwiti. Gallai’r sefydliadau fod yn gyrff cyllido cyhoeddus, arbenigwyr ar fuddsoddi cymdeithasol, banciau, cronfeydd buddsoddi moesegol, elusennau, a chorfforaethau, gan gynnwys cymdeithasau eraill.

Diffinnir buddsoddiad sefydliadol yma fel buddsoddiad gan sefydliadau sy’n fwy na’r terfynau a osodir yn wirfoddol ar ddaliadau cyfranddaliadau unigol gan aelodau, sef 10% o gyfalaf cyfranddaliadau’r gymdeithas, fel arfer. Diben terfynau gwirfoddol yw atal cymdeithasau rhag dibynnu gormod ar aelodau unigol. Pan fydd buddsoddwr sefydliadol yn darparu mwy na 10% o gyfalaf y gymdeithas, bydd angen sefydlu mesurau i ddiogelu buddiannau aelodau cyffredin. Yn aml, gall buddsoddwyr sefydliadol gael cysur o gyfranddaliadau cymunedol. Mae cyfranddaliadau cymunedol yn dangos cefnogaeth gymunedol i’r fenter, a’i gwasanaethau. Mae’n rhoi rhywfaint o sicrwydd ariannol i fenthycwyr sefydliadol, sy’n gwybod eu bod yn uwch ar y rhestr credydwyr na chyfranddalwyr. Mae’n brawf o ymrwymiad tymor hir aelodau i sicrhau bod y fenter yn llwyddo ac yn gallu ymdopi ag unrhyw gyfnod anodd neu heriol.

Mae buddsoddiad sefydliadol yn cael ei groesawu gan gymdeithasau fel arfer, yn amodol ar bryderon ynglŷn â’i effaith bosibl ar fuddsoddiad aelodau a’r peryglon sy’n gysylltiedig â dibynnu gormod ar un ffynhonnell buddsoddiad. Mae’r pryderon hyn yn dibynnu ar natur a graddfa’r buddsoddiad. Bydd y pwyslais yma ar dri math o fuddsoddiad sefydliadol – grantiau, benthyciadau ac ecwiti – ac ar raddfa yn amrywio o 10% i fwy na 90% o gyfanswm y cyfalaf sy’n ofynnol.

Nid yw cyllid grant sefydliadol yn achosi llawer o bryder yn gyffredinol, yn enwedig pan fydd yn gyllid cyhoeddus ar gyfer mentrau budd cyhoeddus. Mae dibyniaeth ar gyllid grant yn llai o broblem pan fydd y grant ar gyfer dibenion cyfalaf, yn hytrach na gweithgareddau refeniw’r gymdeithas. Mae grantiau cyfalaf yn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithasau trwy leihau cost cyfalaf. Hyd yn oed pan fydd grant cyfalaf yn fwy na 90% o gyfanswm y cyfalaf sy’n ofynnol, mae’n annhebygol o gael effaith niweidiol ar gymdeithas, oni bai ei fod yn lleihau cymhelliad y gymuned leol i ddod yn aelodau ac yn fuddsoddwyr yn y gymdeithas, neu’n golygu bod cymdeithas yn ymgymryd â phrosiect buddsoddi cyfalaf sy’n fwy o lawer nag y gall ei gefnogi yn nhermau refeniw.

Mewn cyferbyniad, mae nifer o bryderon yn gysylltiedig â benthyca sefydliadol a dylid ei ystyried yn ofalus, gan gydnabod ar yr un pryd fod dyled yn rhan hanfodol o’r cymysgedd cyllido i’r rhan fwyaf o fusnesau. O’i wneud yn iawn, gall benthyca fod yn hyblyg, yn ymatebol ac, mewn rhai achosion, yn rhatach i gymdeithas yn y pen draw. Mae benthyca sefydliadol i gymdeithasau’n cael ei wneud mewn tair ffordd yn gyffredinol; cyllid cyfalaf tymor hir gwarantedig ar gyfer asedau sefydlog, cyllid tymor byrrach ar gyfer cyfalaf gweithio, a benthyciadau pontio. Nid yw mathau eraill o gyllid dyled, fel gorddrafftiau, ffactoreiddio a chardiau credyd corfforaethol, yn cael eu hystyried yma.

Yn nodweddiadol, defnyddir benthyciadau cyfalaf tymor hwy, am dymhorau o bum mlynedd neu fwy, i brynu asedau sefydlog, lle yr ystyrir bod cyfalaf y cyfranddaliadau cymunedol a gwerth ailwerthu’r asedau sefydlog yn lleihau’r risg i’r benthyciwr. Gallai benthycwyr fod yn fodlon benthyca hyd at 80% o gyfanswm y cyfalaf sy’n ofynnol gan gymdeithas, yn enwedig ar gyfer ased sefydlog fel eiddo, sy’n annhebygol o ddibrisio’n gyflym. Bydd talu llog ac ad-dalu cyfalaf ar gyfer benthyciadau gwarantedig yn cael blaenoriaeth dros unrhyw daliad i aelodau sy’n gyfranddalwyr, neu i gredydwyr anwarantedig fel cyflenwyr. Bydd talu llog benthyciadau’n lleihau faint o arian dros ben sydd ar gael i’r budd cymunedol, llog cyfranddaliadau a chodi cyfranddaliadau. Gallai benthyciadau fod yn ddrutach na chyfranddaliadau cymunedol hefyd. Bydd cyfrannau uchel o ddyledion gwarantedig yn y pecyn cyllido cyfalaf cyffredinol yn cynyddu effaith yr anfanteision hyn i gymdeithas.

Fel arfer, gwneir benthyciadau tymor byrrach, am hyd at bum mlynedd, i ddarparu cyfalaf gweithio, a fydd yn galluogi cymdeithas i brynu cyflenwadau, neu dalu costau staffio pan fydd yn dechrau gweithredu. Mae’r math hwn o fenthyca’n darparu rhwyd ddiogelwch i gymdeithasau y mae eu gofynion llif arian yn anrhagweladwy neu’n amrywio’n fawr, neu sydd â diffyg arian parod pan fyddant yn dechrau. Dylai benthyciadau o’r fath gael eu cyfyngu i swm y gall y gymdeithas ei ad-dalu’n realistig o’r llif arian o fewn tymor y benthyciad.  

Yn olaf, gallai rhai sefydliadau fod yn barod i ddarparu cyllid pontio. Gall cyllid o’r fath helpu cymdeithasau y mae angen iddynt weithredu’n gyflym i brynu asedau sefydlog, neu sy’n ymwneud â chynnig cystadleuol am yr asedau, ac nad ydynt eisiau cyhoeddi cynnig cyfranddaliadau cymunedol sy’n darparu manylion llawn am eu cynlluniau cyfalaf. Neu efallai y bydd angen cyllid i fynd i’r afael â diffyg llif arian dros dro a achoswyd, er enghraifft, gan daliadau TAW neu oedi wrth gael cyllid grant. Fe’u gelwir yn fenthyciadau pontio oherwydd eu bod yn pontio bwlch mewn cyllid, felly maent am gyfnod tymor byr iawn fel arfer, ac yn gymharol ddrud. Yng nghyd-destun cyfranddaliadau cymunedol, mae benthyciadau pontio fel arfer yn cael eu disodli gan elw cynnig cyfranddaliadau cymunedol llwyddiannus. Bydd angen i’r gymdeithas fod yn hyderus bod y broblem yn un dros dro yn unig, neu y gall sicrhau digon o gyfalaf cyfranddaliadau cymunedol i ddisodli’r benthyciad pontio, neu ei leihau, i lefel ymarferol.  

Fel arfer, bydd pob math o gyllid dyled yn ddarostyngedig i gytundebau cyfreithiol a allai gynnwys cyfamodau sy’n cyfyngu ar ryddid y gymdeithas. Y ddau gyfamod mwyaf cyffredin yw sefydlu gwarant dros asedau cymdeithas, a mynnu bod cyfarwyddwyr yn ceisio caniatâd gan y benthyciwr sefydliadol cyn llunio unrhyw gytundebau cyllid dyled eraill. 

Dylai cymdeithasau ochel rhag derbyn benthyciadau am fwy na 50% o gyfanswm eu gofynion cyfalaf. O ran benthyciadau rhwng 25% a 50% o gyfanswm eu gofynion cyfalaf, dylent hefyd fod yn ofalus os yw cost y benthyciad yn sylweddol fwy na’r gyfradd llog uchaf sy’n daladwy ar gyfranddaliadau cymunedol, neu os yw’r benthyciwr yn mynnu bod y cyfalaf yn cael ei ad-dalu’n llawn ymhen llai na phum mlynedd. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylai aelodau a darpar aelodau cymdeithas gael yr holl wybodaeth am sut y gallai’r benthyciadau effeithio ar eu buddiannau ariannol. 

Gall cyllid dyled fod yn ffordd effeithiol iawn o fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion mewn cyllid a gafwyd trwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol. Mae Adran 4.5.4 yn argymell bod cymdeithasau sy’n gwneud cynnig â chyfyngiad amser yn pennu tri tharged codi arian; lleiafswm, swm delfrydol, ac uchafswm. Gellir defnyddio cyllid dyled i lenwi’r bwlch rhwng y swm a gafwyd a’r targed delfrydol neu uchaf. Fodd bynnag, gellir gwneud hyn dim ond os yw’r benthyciwr yn cytuno i addasu ei fenthyciad i lenwi unrhyw ddiffyg o’r targedau. Gallai rhai buddsoddwyr sefydliadol ddymuno codi ffi uwch am wneud trefniant o’r fath, er mwyn sicrhau y bydd eu costau’n cael eu talu. 

O gymharu â benthyciadau, mae buddsoddiad sefydliadol ar ffurf ecwiti yn ddewis gwell i gymdeithasau fel arfer, yn enwedig os bydd buddsoddwyr sefydliadol yn derbyn yr un telerau ac amodau ar gyfer eu cyfranddaliadau ag aelodau unigol. Mae Adrannau 3.2.7 a 4.5.6 yn argymell y dylai’r uchafswm cyfalaf cyfranddaliadau a ddelir gan unigolion gael ei gyfyngu’n wirfoddol i ddim mwy na 10% o gyfanswm y cyfalaf sy’n ofynnol, os yw’r swm hwn yn llai nag £1 filiwn. Y terfyn uchaf cyfreithiol ar gyfer daliadau unigol o gyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei godi  mewn cymdeithas yw £100,000. Nid yw’r terfyn hwn yn berthnasol i gymdeithasau sy’n buddsoddi mewn cyfalaf cyfranddaliadau cymdeithasau eraill. Felly, pe byddai buddsoddwr sefydliadol yn dymuno buddsoddi mwy na £100,000 mewn cyfalaf cyfranddaliadau cymdeithas arall, byddai angen iddo gael ei strwythuro fel cymdeithas, gyda’r pwerau angenrheidiol i fuddsoddi mewn cymdeithasau eraill. 

Lle y bwriedir caniatáu i sefydliad brynu mwy o gyfranddaliadau na’r terfyn uchaf gwirfoddol, dylai’r gymdeithas ddilyn y weithdrefn ganlynol. Os yw’r buddsoddwr sefydliadol yn ceisio telerau blaenoriaethol o ran codi cyfranddaliadau neu log cyfranddaliadau, mae’n rhaid datgan y telerau hyn yn eglur yn y ddogfen gynnig. Os yw’r cynnig hwn yn cael ei wneud gan gymdeithas sefydledig, sydd eisoes ag aelodau sy’n gyfranddalwyr, dylai’r gymdeithas geisio cymeradwyaeth ei haelodau cyn cynnig y telerau blaenoriaethol hyn. Ym mhob achos, dylai cymdeithasau geisio recriwtio o leiaf 20 aelod, sef lleiafswm nifer yr aelodau sy’n ofynnol i gyfiawnhau’r term cyfranddaliadau cymunedol (gweler Adran 1.2.2). O ran cymdeithas newydd a chanddi lai nag 20 aelod, mae’n ddigon i amlinellu telerau’r cytundeb gyda’r buddsoddwr sefydliadol yn y ddogfen gynnig. Yna, gall darpar aelodau benderfynu drostynt eu hunain p’un a yw’r cytundeb yn dderbyniol.

Os yw’r buddsoddwr sefydliadol yn fodlon derbyn yr un telerau ag aelodau eraill, mae’n ddigon i’r gymdeithas ddatgan hyn yn ei dogfen gynnig, gan nodi pa gyfran neu swm y caiff y buddsoddwr sefydliadol ei buddsoddi/fuddsoddi. O ran arfer da, dylai cymdeithasau roi blaenoriaeth i aelodau cyffredin ar draul aelodau sefydliadol os oes gormod o geisiadau am gynnig. Bydd angen cytuno ar hyn o flaen llaw gyda’r buddsoddwr sefydliadol.

Dylai buddsoddwyr sefydliadol sy’n cytuno ar delerau cyfartal gyfyngu eu ceisiadau am godi cyfranddaliadau i swm nad yw’n fwy na’r uchafswm y caiff unrhyw aelod arall ofyn amdano, neu y ceir ei ganiatáu. Felly, os oes gan gymdeithas derfyn daliad cyfranddaliadau gwirfoddol, dyma’r uchafswm y gallai buddsoddwr sefydliadol wneud cais i’w godi hefyd. Os bydd swm y cyfalaf cyfranddaliadau sydd ar gael i’w godi yn cael ei gyfyngu, dylid caniatáu i’r buddsoddwr sefydliadol godi cyfalaf ar yr un telerau cyfyngedig ag aelodau eraill yn unig.   

Er enghraifft, os yw cymdeithas yn ceisio cael uchafswm o £250,000 mewn cyfranddaliadau cymunedol, dylai bennu terfyn uchaf gwirfoddol o £25,000 ar gyfer dal cyfranddaliadau. Gellid caniatáu i fuddsoddwyr sefydliadol fuddsoddi hyd at yr uchafswm cyfreithiol o £100,000 neu fwy os yw hefyd yn gymdeithas sydd â phwerau i wneud buddsoddiad o’r math hwn. Fodd bynnag, oni bai bod y cyfranddaliwr sefydliadol wedi cytuno ar delerau blaenoriaethol â’r gymdeithas, dylai gytuno i gyfyngu ar godi cyfranddaliadau i £25,000 mewn unrhyw un cyfnod, os yw wedi buddsoddi mwy na hyn. Os yw’r gymdeithas wedi derbyn ceisiadau am godi mwy o gyfranddaliadau na’r swm sydd ar gael i’w godi yn y cyfnod hwnnw, dylai ddyfeisio ffordd deg o ddogni codi cyfrandaliadau y dylid ei chymhwyso’n gyfartal i bob cais am godi cyfranddaliadau.

Pan fydd cymdeithas yn defnyddio cynnig agored i gynhyrchu hylifedd i ariannu codi cyfranddaliadau, dylai unrhyw delerau blaenoriaethol sydd gan aelodau sy’n fuddsoddwyr sefydliadol gael eu hegluro i ymgeiswyr yn y ddogfen gynnig.  

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop