2.5.2 Bondiau

Math o gytundeb benthyciad rhwng unigolyn a menter yw bond. Mae cyfalaf yn cael ei fenthyca mewn gwerthoedd bach, rhwng £100 a £500 yn nodweddiadol, a rhoddir tystiolaeth ohono trwy fond neu gytundeb sy’n datgan bod y gymdeithas yn addo talu llog ac ad-dalu’r cyfalaf i ddeiliad y bond ar ddyddiad penodol. Gellir trosglwyddo bondiau rhwng trydydd partïon fel arfer. Defnyddir bodiau’n helaeth gan awdurdodau cyhoeddus, sefydliadau credyd a chwmnïau, ond anaml y’u defnyddir gan fentrau cymunedol bach. Nid yw bondiau’n rhoi aelodaeth na hawliau pleidleisio.

Mae’n well gan y rhan fwyaf o gymdeithasau gyhoeddi cyfranddaliadau na bondiau, a hynny am resymau eithaf syml. Mae’n rhaid ad-dalu dyled yn unol ag amserlen y cytunwyd arni o flaen llaw, a bydd cyfradd llog a drefnwyd o flaen llaw yn berthnasol iddi fel arfer. Nid yw ecwiti, yn enwedig cyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei godi, yn ddarostyngedig i unrhyw amserlen ad-dalu na chyfraddau llog a drefnwyd o flaen llaw. 

Ond bydd bondiau’n briodol mewn rhai sefyllfaoedd, wrth gwrs. Oherwydd eu bod yn cynnig mwy o sicrwydd, gallai bondiau fod yn fenter ariannol fwy atyniadol i fuddsoddwyr. Ni all elusennau cofrestredig gyhoeddi ecwiti sy’n dwyn difidendau, felly gallai bondiau fod yn ddewis arall da. Gallai sefydliadau eraill, fel cwmnïau cydweithredol gweithwyr, hoffi’r syniad o gael cyfalaf gan eu cefnogwyr heb orfod cyfaddawdu eu hegwyddorion rheolaeth gan weithwyr. Mae bondiau’n cynnig datrysiad da i’r broblem hon gan nad oes hawliau pleidleisio’n gysylltiedig â nhw. Gallai bondiau fod yn atyniadol i aelodau sydd eisoes wedi buddsoddi’r uchafswm o £100,000 a ganiateir mewn cyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei godi ond sy’n dymuno buddsoddi mwy o hyd, er y dylai cymdeithasau fod yn ofalus ynglŷn â dibynnu gormod ar aelodau, a dylent fel arfer atal unrhyw aelod rhag buddsoddi mwy na 10% o’r cyfalaf a gafwyd gan gymdeithas. Mae’n bosibl y byddai’n well gan rai buddsoddwyr fondiau â chyfraddau llog a chyfnodau adbrynu sefydlog.

Mae rhai cwmnïau cydweithredol a chymdeithasau tai mwy wedi troi at farchnad fondiau Cyfnewidfa Stoc Llundain i gael cyfalaf, ond gan nad yw’r cyhoeddiadau hyn wedi’u targedu at y cyhoedd, ni ellir eu hystyried yn fath o gyllid cymunedol.

Nid yw bondiau’n darparu ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned. Nid yw deiliaid bondiau’n aelodau, ac nid oes ganddynt hawliau pleidleisio ym materion y gymdeithas. Nid yw’r un cyfle ar gael i gynnwys deiliaid bondiau yng ngweithgareddau busnes y gymdeithas fel cwsmeriaid, gwirfoddolwyr neu aelodau pwyllgor rheoli. Nid yw bondiau’n rhoi teitl cyfreithiol i’r fenter nac yn cyfleu perchenogaeth gymunedol.

Mae anfanteision eraill yn gysylltiedig â bondiau. Rhaid eu had-dalu erbyn dyddiad penodol, sy’n golygu y bydd rhaid gwneud elw a’i neilltuo i ariannu’r ad-daliadau hyn. Er y gallai fod yn bosibl disodli hen fondiau â chyhoeddiad newydd, bydd hyn yn golygu cost unwaith eto wrth gael cyfalaf, a’r risg gysylltiedig na fydd buddsoddwyr eisiau adnewyddu eu bondiau. Gall bondiau fod yn ddrutach hefyd, yn enwedig os cânt eu cyhoeddi gyda chyfradd llog sefydlog uchel sy’n fwy na chost dyled fasnachol yn ystod yr un cyfnod.

Mae ffyrdd eraill o gael cyfalaf benthyciadau gan y cyhoedd, gan gynnwys cynnig stoc benthyciadau neu stoc dyledebau: mae’r cyntaf yn cynrychioli risg lwyr, tra bod yr olaf fel arfer yn cael ei gwarantu yn erbyn ased penodol a ddelir gan y fenter. Mae gwerthu unrhyw fath o gynnyrch dyled i’r cyhoedd yn weithgaredd a reoleiddir, sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 a’i Gorchmynion Rheoleiddio cysylltiedig, oni bai bod eithriadau. Mae cymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol wedi’u heithrio fel arfer.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu awgrymiad am wybodaeth newydd yr hoffech ei gael yn y Llawlyfr, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost ar communityshares@uk.coop