Y natur benderfynol sydd ei hangen i wneud i gyfranddaliadau cymunedol weithio

20th Apr 2018

Rydym yn rhannu blog gan Dave Hollings o Co-operative and Mutual Solutions. Mae Dave wedi rhoi cyngor ar gyfer 36 o ddyroddiadau cyfranddaliadau cymunedol a gwblhawyd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, gan godi gwerth £6 miliwn o gyfranddaliadau, a’r rheini’n aml wedi cael mathau eraill o gyllid ychwanegol. Mae’n arbenigo mewn tafarndai, siopau ac ynni adnewyddadwy. Mae hefyd wedi cynghori cleientiaid o’r Siroedd Cartref i Ynysoedd y Gorllewin. Mae hefyd wedi bod yn rhan o ddyroddiad cyfranddaliadau cymunedol ar ochr y gymuned, gan godi’r cyfranddaliadau cymunedol roedd eu hangen i achub ei dafarn leol, a dyna ble mae ei stori’n dechrau…

Es i i fy nhafarn leol neithiwr. Nid oes dim byd yn rhyfeddol am hynny, ar wahân i’r ffaith na ddylai fod yno. Dair blynedd yn ôl, cafodd tafarn y Dog Inn yn Swydd Gaerhirfryn ei chau’n barhaol gan y cwmni a oedd yn berchen arni.Dywedodd y cwmni fod y dafarn yn annichonadwy ac yn ddiangen ac nad oedd pobl leol yn rhoi gwerth arni. Roedd hyn i gyd yn anghywir.

Felly, fel llawer o gymunedau mewn perygl o golli ased lleol gwerthfawr, cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus a ffurfiwyd grŵp ymgyrchu er mwyn ystyried sut i achub y Dog Inn.

Yn y cyfamser, gwerthwyd y dafarn i ddatblygwr lleol a oedd yn bwriadu codi tai yn ei lle. Byddai hyn wedi golygu bod pentref o 450 o bobl heb unrhyw gyfleusterau lleol, ar wahân i’r ysgol gynradd leol. Dim tafarn, dim siop, dim neuadd bentref.

Felly, gwnaethom gynnig prynu’r dafarn gan y datblygwr i’w hailagor fel tafarn. Yn hael, fe gytunodd. Yn llai hael, rhoddodd 10 wythnos i ni godi’r arian. Sut? Nid oedd modd i ni gael benthyciad (ac nid oeddem yn siŵr y byddem yn gallu ei dalu’n ôl beth bynnag). Hyd yn oed petai grantiau ar gael i brynu tafarnau, sy’n anarferol, ni fyddai 10 wythnos yn ddigon o amser am benderfyniad o bell ffordd. Dim ond un dewis oedd gennym: cyfranddaliadau cymunedol.

Mae cyfranddaliadau cymunedol yn gweithio wrth i bobl leol fuddsoddi eu harian eu hunain yn rhywbeth sy’n werthfawr iddynt. Pobl leol sy’n berchen ar yr ased a gallant ddisgwyl cael eu buddsoddiad yn ôl ar ryw adeg yn ogystal ag adenillion bach ar eu buddsoddiad (ond llai o adenillion nag ar fenthyciad masnachol fel arfer). Gall pobl fuddsoddi gwahanol symiau ond un bleidlais sydd gan bawb, ni waeth faint yw eu buddsoddiad.

Roedd yn waith caled, ac nid oedd gennym lawer o amser, ond aethom ati i drefnu ein hunain, llunio cynllun busnes, lansio cynnig cyfranddaliadau a chodi £180,000 gan tua 125 o bobl i brynu’r dafarn, ei hadnewyddu a phrynu’r stoc gychwynnol.

Ddwy flynedd yn ôl, ailagorodd y Dog Inn o dan berchenogaeth gymunedol. Ond mae’n fwy na thafarn. Dyma ein siop goffi, siop y pentref a neuadd y pentref. A chyda diffibriliwr ar y wal tu allan, dyma ein gwasanaeth iechyd hefyd.

Felly, ar nos Fawrth ym mis Hydref, y Dog Inn oedd lleoliad cyfarfod cymunedol, cyfarfod cyffredinol blynyddol elusen leol, pryd bwyd pen-blwydd, yn ogystal â phobl yn ymlacio dros ddiod. A heb gyfranddaliadau cymunedol, ni fyddai dim o hynny wedi bod yn bosibl.