Arbenigwr ar gyfranddaliadau cymunedol yn ein hannog i ‘berchen ar y mentrau sy’n eich gwasanaethu’

2nd Mar 2018

C: Fe’ch penodwyd yn un o sylfaenwyr Panel Mentrau Newydd Cwmnïau Cydweithredol y DU yn 2002. Mae gennych chi 15 mlynedd o brofiad ym maes cyfranddaliadau cymunedol – pa newidiadau ydych chi wedi’u gweld yn y farchnad yn ystod yr amser hwnnw?

Mae gwaith y CSU wedi cael effaith fawr ar nifer y Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol sy’n cael eu cofrestru. Mae nifer y cofrestriadau blynyddol wedi dyblu ers sefydlu’r CSU, sy’n gyfrifol am dros 60% o’r holl gofrestriadau newydd.

Rydym wedi gweddnewid maes buddsoddiadau ecwiti mewn mentrau cymdeithasol yn gyfan gwbl; yn ôl adroddiad Banc Lloegr 15 mlynedd yn ôl, nid oedd buddsoddiad ecwiti mewn mentrau cymdeithasol yn hyfyw. Rydym wedi dangos ei fod nid yn unig yn hyfyw ac yn gynaliadwy, ond ei fod yn gweddnewid cymunedau.

C: Mae llawer o’ch gwaith wedi canolbwyntio ar ddatblygu’r achrediad nod safon cydnabyddedig er mwyn rheoleiddio’r farchnad i ryw raddau. Beth yw’r manteision a’r heriau wrth fabwysiadu’r nod safon?

Mae’r nod safon wedi cael effaith fawr ar wella ansawdd cynlluniau busnes, dogfennau cynnig a gallu cyffredinol ymarferwyr sy’n gyfrifol am gynorthwyo mentrau cymunedol.

Mae wedi rhoi sicrwydd i aelodau lleyg byrddau cymdeithasau bod eu hymarfer yn dda, gan eu galluogi i graffu ar eu cynlluniau eu hunain a’u dull o godi cyfalaf. Mae wedi creu hyder digonol yn y farchnad nes bod buddsoddwyr sefydliadol yn cymryd rhan drwy gefnogi cymunedau a gwella economïau lleol.

C: Rydych chi wedi arfarnu 36 o gynigion cyfranddaliadau hyd yn hyn yn rhinwedd eich rôl fel Cynghorydd Strategol i’r CSU. Oes gennych chi ffefryn penodol neu enghraifft o arfer da? Beth gall pobl eraill ei ddysgu o’r enghraifft honno?

Dyna gwestiwn anodd iawn oherwydd amcan cyffredinol y Nod Safon yw sicrhau bod pob cynnig yn cyrraedd yr un lefel o ymarfer da, fel nad oes unrhyw gynnig yn well na’i gilydd. Felly, yr ateb hawdd i’r cwestiwn hwn yw dweud mai fy ffefryn yw’r cynnig diwethaf y bues i’n gweithio arno, sef Ynni Teg yn yr achos hwn. Hefyd, roeddwn wrth fy modd â chynnig Le Public Space; roedd yr unigolion a oedd yn ymwneud â’r prosiect hwnnw’n arloeswyr penderfynol ac angerddol.

C: Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i bobl sy’n ystyried paratoi cynnig cyfranddaliadau?

  1. Canolbwyntio ar ddiben cymunedol y prosiect.
  2. Sicrhau bod gennych chi fodel busnes proffidiol sy’n seiliedig ar fantais gystadleuol gymdeithasol.
  3. Gofynnwch i’ch cefnogwr sydd â’r sgiliau llythrennedd ariannol gorau i ysgrifennu’ch cynllun busnes, a’ch ysgrifennwr gorau sydd â’r sgiliau llythrennedd ariannol gwaethaf i ysgrifennu’ch dogfen gynnig. Trwy wneud hynny, byddwch chi’n sicrhau bod pawb yn gallu darllen eich dogfen gynnig yn hawdd.

C: Beth yn eich barn chi fydd cyflwr y farchnad cyfranddaliadau cymunedol yng Nghymru mewn 15 mlynedd?

Byddai’n dda gweld y marchnadoedd yn datblygu fel bod modd i bobl fuddsoddi rhywfaint o’u cynilon hirdymor yn eu cymunedau lleol, gan gefnogi gwasanaethau sy’n bwysig iddyn nhw, yn hytrach na chadw’r holl gynilon yn y banc.

Rydym yn gwybod bod y model cyfranddaliadau ariannol yn addas i dafarndai, siopau, a chlybiau pêl-droed, ond hoffwn weld y model yn cael ei ymestyn i gynnwys asedau cymunedol fel tai cymdeithasol, cyfleusterau gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, gan greu dewis amgen cymunedol i Fentrau Cyllid Preifat. Bydd hyn yn digwydd os yw cymunedau, y llywodraeth a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio i greu perchnogaeth gymunedol trwy fuddsoddiad.

C: Mewn deuddeg gair, pam ddylai pobl fuddsoddi mewn cyfranddaliadau cymunedol?

Buddsoddwch yn eich cymuned i berchen ar y mentrau sy’n eich gwasanaethu.