Mae angen cyfalaf risg ar bob menter, er mwyn dechrau arni, tyfu a bod yn gynaliadwy. Mae’r cyfalaf hwn yn cael ei ddarparu gan y perchnogion sydd â chyfranddaliadau yn y fenter, fel arfer, yn ogystal â chyllid gan fenthycwyr ac, wrth gwrs, gan y busnes ei hun yn ail-fuddsoddi ei elw. Mae cyfalaf risg yn galluogi’r fenter i ymdopi ag uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r broses ddatblygu, sydd i’w disgwyl wrth ddilyn nodau busnes uchelgeisiol, heriol neu arloesol.

 

 

Un o’r prif resymau y gall fod yn anodd i fentrau cymdeithasol gystadlu â mentrau preifat weithiau yw eu diffyg cyfalaf risg. Un o achosion craidd y tan-gyfalafu hwn yw’r gred na all mentrau cymdeithasol fod â chyfranddeiliaid, neu na ddylent fod â chyfranddeiliaid. Ystyrir buddsoddi ecwiti yn anghydnaws â phwrpas cymdeithasol, oherwydd bod cyfranddaliadau yn rhoi teitl cyfreithiol, sy’n golygu bod y fenter yn cael ei berchnogi, ei reoli a’i redeg ym mudd y buddsoddwyr. 

Mae cyfranddaliadau cymunedol yn darparu mecanwaith ar gyfer pontio’r bwlch rhwng tan-gyfalafu a pherchnogi menter gymdeithasol. Mae’r term hwn yn cyfeirio at gyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei dynnu yn ôl ond na ellir ei drosglwyddo; mae’n fath o gyfalaf cyfranddaliadau sy’n unigryw i ddeddfwriaeth cymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol. Cymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol yn unig all ddosbarthu’r math hwn o gyfalaf cyfranddaliadau, gan gynnwys cymdeithasau budd cymunedol elusennol, ac mae gan y math hwn nodweddion unigryw:

  1. Ni ellir trosglwyddo’r math hwn o gyfalaf cyfranddaliadau rhwng pobl. Yn hytrach na throsglwyddo, mae’r gymdeithas yn galluogi cyfranddeiliaid i dynnu eu cyfalaf cyfranddaliadau yn ôl, yn amodol ar delerau ac amodau sy’n amddiffyn diogelwch ariannol y gymdeithas.
  2. Mae gwerth y cyfranddaliadau yn sefydlog, ac ni ellir newid hyn, er bod gan rai cymdeithasau'r pŵer i leihau gwerth y cyfranddaliadau os bydd y gymdeithas yn profi trafferthion ariannol.
  3. Un bleidlais yn unig sydd gan y cyfranddeiliaid, ni waeth beth yw maint eu cyfran, felly mae’r gymdeithas yn ddemocrataidd. Hefyd, mae cyfyngiad ar gyfranddaliadau personol, sef hyd at £100,000 ar hyn o bryd (£20,000 yng Ngogledd Iwerddon).
  4. Hefyd, mae cyfyngiad ar y llog a delir ar gyfalaf cyfranddaliadau, ar sail yr egwyddor na ddylai’r llog fod yn fwy na sy’n ddigonol er mwyn denu buddsoddi.
  5. I gloi, mae’r rhan fwyaf o gymdeithasau yn amodol ar glo asedau, sy’n atal y gymdeithas rhag cael ei gwerthu a rhannu elw’r gwerthiant rhwng y cyfranddeiliaid. Mae hyn yn dileu’r posibilrwydd o adbrisiant cyfalaf, ac yn rhoi cwmpas ar gyfer menter buddsoddwyr.

 

Canlyniad y darpariaethau hyn yw nad yw cymdeithasau yn debygol o gael eu “meddiannu” yn ariannol, oherwydd nad ydynt yn cynnig y posibilrwydd o enillion cyfalaf, ac, felly, mae angen iddynt ddenu buddsoddwyr sydd â diddordeb ym mhwrpas y gymdeithas. I gymdeithasau, mae’n cynnig ffynhonnell o gyfalaf risg tymor estynedig sy’n helpu i ddenu ffyrdd eraill o ariannu (grantiau, rhoddion a dyled), sy’n rhoi cyfle da i’r fenter gynyddu ei ymarferoldeb a’i gynaliadwyedd.  

Yn seiliedig ar y nodweddion hyn, mae cyfranddaliadau cymunedol yn ffordd ddelfrydol i gymunedau fuddsoddi mewn mentrau sydd â phwrpas cymunedol, ac maent wedi cael eu defnyddio er mwyn ariannu siopau, tafarndai, adeiladau cymunedol, mentrau ynni adnewyddadwy, cynlluniau bwyd lleol, ynghyd ag amrywiaeth eang o fentrau cymunedol eraill.