Tafarn yr Heliwr / The Sportsman, Nefyn
Year of share offer: 
2018
Money raised: 
£82,000
Number of members: 
500
A hithau'n dafarn brysur ar y stryd fawr yn nhref arfordirol Nefyn ar un adeg, caeodd Tafarn yr Heliwr ei drysau yn 2009. Naw mlynedd yn ddiweddarach, mae ei pherchnogaeth ar gyfer y dyfodol yn ddiogel o ganlyniad i gynnig cyfranddaliadau cymunedol a gododd £82,000 i brynu'r rhydd-ddaliad.

Trwy help y prosiect Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru a darperir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, lansiodd y grŵp gynnig cyfranddaliadau ym mis Mai 2018. Gan ofyn i bawb brynu o leiaf 50 o gyfranddaliadau, a oedd yn costio £1 yr un, denwyd dros 500 o fuddsoddwyr o gymuned o 2,000 o bobl.

Dywedodd Elin Angharad Davies, Cyfarwyddwr ac Ysgrifennydd newydd ei phenodi Tafarn yr Heliwr:

"Pan ddechreuon ni ar y siwrnai hon fel grŵp bach o wirfoddolwyr, nid oeddem yn credu am un funud y byddem yn gallu codi dros wythdeg mil o bunnoedd mewn ychydig dros wyth wythnos. Rydym wedi cael ein llethu'n llwyr gan ymateb ein cymuned i achub ei thafarn leol, a arferai fod yn fan cyfarfod canolog ar gyfer clybiau chwaraeon ac ymwelwyr â Phen Llŷn.

Mae'r hyfforddiant a'r cymorth rydym wedi'u cael gan Ganolfan Cydweithredol Cymru drwy gydol y broses hon wedi bod heb eu hail. O'n sefydlu ni fel Cymdeithas Budd Cymunedol, fel y gallwn gynnwys perchnogaeth mor eang â phosibl, i'n tywys trwy'r prosesau cyfreithiol sy'n ymwneud â chynnig cyfranddaliadau cymunedol, mae'r Ganolfan wedi bod yn gynghorydd ac yn fentor dibynadwy yn ystod adegau o ansicrwydd."

Dywedodd Carly McCreesh, Rheolwr Prosiect  Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru:

"Y dafarn leol yw calon ac enaid sawl cymuned ledled y wlad, ond yn anffodus mae Cymru'n colli un dafarn yr wythnos ar hyn o bryd.* Gall cynllun cyfranddaliadau cymunedol helpu i rymuso pobl leol i achub y lleoedd sy'n bwysig iddynt, neu helpu perchnogion i adael eu gwaddol mewn dwylo diogel. Trwy fuddsoddi yn y gwasanaethau a'r cyfleusterau sy'n bwysig iddynt, a chael lleisio eu barn am y modd y cânt eu rhedeg, bydd cymunedau'n meithrin ymdeimlad o berchnogaeth, a byddant yn cryfhau wrth weithio gyda'i gilydd i newid eu dyfodol.”

Dywedodd Bleddyn a Bethan Evans, aelodau o bwyllgor Tafarn yr Heliwr:

"Mae pobl am gael rhywle y gallant alw heibio i gael paned o de – a dyna beth rydym yn ei dargedu. Mae hyn i gyd yn ymwneud â darparu lle sy'n dod â'r gymuned ynghyd. Mae pobl hŷn yn y gymuned wedi dweud nad oes unrhyw le i fynd mwyach er mwyn cael eistedd a siarad â rhywun.

Rydym wedi creu bwrlwm ac mae pobl yn edrych ymlaen at weld y prosiect  terfynol. Rydym wedi creu ysbryd cymunedol, ac roedd y bobl yn y diwrnod agored yn wir wedi'u cyffroi. Rydym wedi cael tua 30 o wirfoddolwyr hyd yma, ac mae pob un ohonynt wedi dweud ei fod yn falch o deimlo'n rhan o rywbeth yn y gymuned.

Mae pawb wedi gallu cymryd rhan. Mae pobl nad oeddent yn gallu fforddio'r cyfranddaliadau wedi gwneud pethau am ddim, er enghraifft mae bandiau lleol wedi cynnal gigiau i'n helpu i godi arian.

Mae gennym un gwirfoddolwr swil iawn, ac ar y diwrnod agored, roedd yn siarad â phobl ac yn eu tywys o amgylch, ac ni fyddwn erioed wedi dychmygu hynny. Mae gennym wirfoddolwyr eraill nad ydynt yn ymwneud â gweithgareddau cymunedol fel arall, ac maent wedi mwynhau cymryd rhan a chwrdd â phobl newydd. Mae pobl yn mwynhau cael y cyfle i gymryd rhan 'nawr y mae'r gwaith adnewyddu'n dechrau.

Mae'n anhygoel faint o bobl â sgiliau sydd wedi cyflwyno'u hunain. Daeth ffotograffydd lleol heibio a thynnu rhai lluniau creadigol yr ydym wedi gallu eu defnyddio. Mae person lleol arall wedi gwneud fideo drôn a oedd yn rhywbeth da iawn i'w rannu. Mae enwogion lleol hefyd wedi gwneud clipiau fideo i hyrwyddo'r hyn rydym yn ei wneud.

Mae gan bawb ar y pwyllgor gefndir gwahanol. Mae gennym diwtor Cymraeg sydd wedi bod yn wych wrth gyfieithu a llenwi ffurflenni, pensaer a luniodd ein cynlluniau, newyddiadurwr a ysgrifennodd ddogfennau'r cynnig cyfranddaliadau a'r ceisiadau grant, perchnogion busnes sy'n helpu gyda'r model busnes, a bydd crefftwyr fel seiri a thrydanwyr yn helpu gyda'r gwaith adnewyddu. Rydym hefyd wedi cael pobl ar y pwyllgor sydd â chysylltiadau ardderchog ac sy'n adnabod pawb, sydd wedi bod yn gryfder go iawn i ni.

Mae pobl o bob rhan o'r gymuned wedi prynu cyfranddaliadau. Mae ein cyfranddaliwr hynaf yn 97 oed, ac mae llawer o bobl wedi prynu cyfranddaliadau ar gyfer eu plant a'u hwyrion a'u hwyresau. Rydym hefyd wedi cael buddsoddiad gan bobl a gafodd eu magu yn yr ardal ac sydd wedi symud i ffwrdd.

Aethom â stondinau i ddigwyddiadau lleol, ac roedd gennym stondin yn y siop Spar leol ar fore Sadwrn hyd yn oed, er mwyn siarad â phobl wrth iddynt brynu'r papurau! Cysylltom â bragdy lleol a oedd yn fodlon i ni ddefnyddio ei leoliad ar gyfer digwyddiadau; a byddwn yn gallu ei ddefnyddio fel cyflenwr ar ôl i ni agor.

Gwnaethom lawer o bethau ar-lein, ond anfonwyd copïau papur hefyd at grwpiau nad oeddent ar-lein efallai, er enghraifft y Clwb 'Age Well', y Sefydliad y Merched lleol, a rhoesom daflenni yn y Cludiant Cymunedol lleol er mwyn sicrhau ein bod yn cysylltu â phawb. Rydym wedi gwneud partneriaid strategol yn y gymuned hefyd, er enghraifft partneru â'r grŵp tai lleol.

Rydym hefyd wedi gwneud gwell cysylltiadau â phobl ym maes cyfranddaliadau cymunedol. Rydym hyd yn oed wedi clywed gan rai grwpiau cymunedol sydd am wneud yr un peth yn eu pentref nhw, ac rydym wrthi'n mentora cadeirydd Menter y Plu er mwyn cefnogi'r fenter hon gyda'i chynnig cyfranddaliadau cymunedol. Rwy'n gwybod nad yw'r cadeirydd yn gweithio ar ddydd Mercher, oherwydd bob dydd Mercher mae'n fy ffonio ac rwy'n rhoi cyngor iddo ar sut yr aethom ati i ddelio â'r un pethau ag y mae ef yn eu hwynebu!"

Ychwanegodd Elin:

"Mae gennym lawer o waith i'w wneud o hyd er mwyn sicrhau mai'r dafarn hon yw calon y gymuned unwaith eto, ond mae gennym ddyfodol disglair sydd bellach yn eiddo i'r bobl ac yn cael ei redeg gan y bobl. Dros 500 ohonynt! Ni allwch roi pris ar hynny.”